Willie Thomas
Roedd William Henry Thomas (22 Mawrth 1866 - 11 Hydref 1921) yn chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli a Chymry Llundain. Cafodd ei gapio un ar ddeg gwaith i Gymru a bu'n gapten ar y tîm ar ddau achlysur. Ym 1888, dewiswyd Thomas i fynd ar daith i Seland Newydd ac Awstralia fel rhan o dîm cyntaf Ynysoedd Prydain. Ni chwaraeodd y daith answyddogol hon yn erbyn gwrthwynebydd rhyngwladol ac ni ddyfarnwyd capiau.
Willie Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mawrth 1866 Abergwaun |
Bu farw | 11 Hydref 1921 Beccles |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Clwb Rygbi Llanelli |
Cefndir
golyguGanwyd Thomas yn Abergwaun, Sir Benfro ym 1866 i Evan Thomas, teithiwr masnachol a Mary Ann ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri cyn graddio o Goleg Corpus Christi, Caergrawnt ym 1885. [1] Ym 1894 priododd Martha Sherwood Stanford o Lowestoft Swydd Sussex,[2] bu iddynt un ferch. Mae'n rhaid ei fod wedi dod i arian trwy ryw fodd gan nad oes cofnod ohono'n gweithio. Mae'n cael ei ddisgrifio fel "bonheddwr" ar ei dystysgrif priodas[3] ac fel un yn "byw ar ei foddion ei hunan" ar gyfrifiad 1911.[4]
Bu farw yn Beccles, Suffolk, yn 55 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Kirkley yn Lowestoft.
Gyrfa Rygbi
golyguYm 1885, tra’n dal yn fachgen ysgol yng Ngholeg Llanymddyfri, [5] dewiswyd Thomas ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad . O dan gapteiniaeth Charlie Newman o Gasnewydd, sicrhaodd Cymru gêm gyfartal trwy dactegau dan dîn, yn bennaf trwy ladd y bêl pryd bynnag y bo modd gwneud hynny trwy orwedd arni. [5] Ail-ddewiswyd Thomas ar gyfer y ddwy gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886, gan ddal i gynrychioli Llanymddyfri ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr yn Blackheath. Erbyn y gêm yn erbyn yr Alban yr wythnos ganlynol roedd yn cael ei nodi fel aelod o dîm Prifysgol Caergrawnt. Collodd Cymru’r ddwy gêm, ond yn yr ail gêm ym Mharc Arfau Caerdydd yn erbyn yr Alban, roedd Thomas yn rhan o dîm cyntaf Cymru i dreialu’r system pedwar tri chwarter. Ym 1886 a 1887, roedd Thomas ar dîm buddugol Caergrawnt yn y gêm rhyng-golegol yn erbyn Rhydychen, gan gasglu dau Grys Glas ar gyfer chwaraeon.
Chwaraeodd Thomas ddwywaith ym Mhencampwriaeth 1887, gan golli i Loegr a’r Alban. Cafodd ei ollwng am y gêm fuddugol dros Iwerddon pan ddewiswyd William Towers yn ei le. Roedd Thomas yn ôl ar gyfer y ddwy gêm ym Mhencampwriaeth 1888, ond erbyn hyn roedd yn cynrychioli Cymru Llundain. Gwelodd y gêm agoriadol fuddugoliaeth gyntaf Cymru dros yr Alban, diolch i gais cyntaf gan Thomas Pryce-Jenkins. Hon hefyd oedd y gêm ryngwladol fuddugol gyntaf i Thomas fod yn rhan ohoni, er na allai'r tîm elwa ar eu llwyddiant pan gawsant eu curo gan Iwerddon yn ail gêm a gêm olaf y twrnamaint.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [6]
Llyfryddiaeth
golygu- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Thomas, William Henry (THMS885WH)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ "MARRIAGE OF A WELSH INTERNATIONAL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1894-08-13. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ Archifau Metropolitan Llundain; Llundain, Lloegr; Cofrestrau Plwyf Eglwys Loegr Llundain; Rhif Cyfeirnod: P89 / ALL2 / 003 Cofrestr priodasau Eglwys yr Holl Saint, St Marylebone, Westminster.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911 ar gyfer The Manor House, Wington, Abergwaun RG14/14618
- ↑ 5.0 5.1 Godwin (1984), tud 10.
- ↑ Smith (1980), tud 472.