Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1888

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1888 oedd y chweched yn y gyfres o Bencampwriaethau'r Pedair Gwlad rygbi'r undeb. Chwaraewyd tair gêm rhwng 4 Chwefror a 10 Mawrth. Cafodd ei herio gan Iwerddon, Yr Alban a Cymru. Cafodd Lloegr eu gwahardd o'r Bencampwriaeth oherwydd eu bod wedi gwrthod ymuno â'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.[1]

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1888
Tom Clapp Capten Cymru
Dyddiad4 Chwefror - 10 Chwefror 1888
Gwledydd Iwerddon
 yr Alban
 Cymru
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Iwerddon,  yr Alban,  Cymru
Gemau a chwaraewyd3
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Gweriniaeth Iwerddon Rambaut (1)
Gweriniaeth Iwerddon Carpendale (1)
yr Alban Berry (1)
1887 (Blaenorol) (Nesaf) 1889
Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Pwyntiau
tabl
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Dros Yn erbyn Gwahan.
1   Iwerddon 2 1 0 1 2 1 +1 2
1   yr Alban 2 1 0 1 1 0 +1 2
1   Cymru 2 1 0 1 0 2 −2 2

Canlyniadau

golygu
4 Chwefror 1888
Cymru   (1 Cais) 0–0 (0 Cais)   yr Alban
3 Chwefror 1888
Iwerddon   2–0   Cymru
10 Chwefror 1888
yr Alban   1–0   Iwerddon

System sgorio

golygu

Penderfynwyd canlyniad y gemau ar gyfer y tymor hwn ar y goliau a sgoriwyd. Dyfarnwyd gôl ar gyfer trosiad llwyddiannus ar ôl cais, ar gyfer gôl adlam neu ar gyfer gôl o farc. Pe bai nifer y goliau'n gyfartal, byddai unrhyw geisiadau heb eu trosi yn cael eu cyfri i ganfod enillydd. Os nad oedd enillydd clir o gyfrir ceisiadau, cyhoeddwyd bod yr ornest yn gêm gyfartal.

Y gemau

golygu

Cymru v. Yr Alban

golygu
4 Chwefror 1888
  Cymru 1 Cais – dim   yr Alban
Cais: Pryce-Jenkins
Rodney Parade, Casnewydd
Dyfarnwr: J Chambers (Iwerddon)
 
Dr T. J. Pryce Jenkins, sgoriwr cais Cymru

Cymru: Ned Roberts (Llanelli RFC), George Bowen (Abertawe), Arthur Gould (Casnewydd), Pryce-Jenkins (Cymry Llundain), Jem Evans (Caerdydd), William Stadden (Caerdydd), Tom Clapp (Casnewydd) capt., Richard Powell (Casnewydd), Willie Thomas (Cymry Llundain), Alexander Bland (Caerdydd), Frank Hill (Caerdydd), Dick Kedzlie (Caerdydd), John Meredith (Abertawe), Tom Williams (Abertawe), William Howell (Abertawe)

Yr Alban: HFT Chambers (Prifysgol Caeredin), Bill Maclagan (Albanwyr Llundain), HJ Stevenson (Edinburgh Academicals), MM Duncan (Prifysgol Caergrawnt), Charles Orr (West of Scotland), CFP Fraser (Prifysgol Glasgow), CW Berry (Fettesian-Lorettonian), AT Clay (Edinburgh Academicals), A Duke (Royal HSFP), TW Irvine (Edinburgh Academicals), MC McEwan (Edinburgh Academicals), DS Morton (West of Scotland), Charles Reid |C Reid (Edinburgh Academicals) capt., LE Stevenson (Prifysgol Caeredin), TB White (Edinburgh Academicals)

Cyflawnodd Cymru eu buddugoliaeth gyntaf dros yr Alban [2] gyda chais ymddangosiad cyntaf gan Pryce-Jenkins. Ar ôl y cais fe wnaeth Cymru newid eu tactegau i ddifetha'r gêm trwy orwedd ar y bêl neu gicio'r bêl i'r ystlys i atal chwarae'r Alban. Yn ystod y gêm fe diriodd yr Alban y bêl dros linell Cymru bum gwaith ond ni chawsant gais gan y dyfarnwr Chambers.


Iwerddon v. Cymru

golygu
3 Mawrth 1888
  Iwerddon 1Gôl, 2Gais, 1G.A–dim   Cymru
Cais: Warren
Shanahan
Trosiad: Rambaut
G. Adlam: Carpendale
Lansdowne Road, Dulyn
Maint y dorf: 4,000
Dyfarnwr: George Rowland Hill (Lloegr)
 
G R Hill dyfarnwr Iwerddon v Cymru

Iwerddon Dolway Walkington (C R Gogledd yr Iwerddon), Maxwell Carpendale (Monkstown), Daniel Frederick Rambaut (Prifysgol Dulyn), CR Tillie (Prifysgol Dulyn), RG Warren (Landsdowne), JH McLaughlin (Dinas Derry), HJ Neill (C R Gogledd yr Iwerddon) capt., EW Stoker (Wanderers), FO Stoker (Wanderers), WG Rutherford (Tipperary), T Shanahan (Landsdowne), CM Moore (Prifysgol Dulyn), J Moffatt (Belfast Academy), RH Mayne (Belfast Academy), W Ekin (Queen's College)

Cymru: Ned Roberts (Llanelli), Pryce-Jenkins (Cymry Llundain), George Bowen (Abertawe), Charlie Arthur (Caerdydd), Jem Evans (Caerdydd), Charlie Thomas (Casnewydd), Tom Clapp (Casnewydd) capt., Richard Powell (Casnewydd), Frank Hill (Caerdydd), Dick Kedzlie (Caerdydd), Willie Thomas (Cymry Llundain), Alexander Bland (Caerdydd), John Meredith (Abertawe), Tom Williams (Abertawe), William Howell (Abertawe)

Y gêm hon oedd buddugoliaeth gyntaf Iwerddon dros Gymru, a welodd Iwerddon yn defnyddio Shanahan, blaenwr, i rôl blaenasgellwr. Credir mai hwn yw'r tro cyntaf i flaenwr gael ei ddefnyddio i lenwi safle ar yr asgell. Cafodd Shanahan gêm ragorol, gan sefydlu cais Warren a sgorio ei hun. Chwaraeodd Cymru’n wael.[3] Ar ôl y gêm cafodd wyth o’r chwaraewyr, gan gynnwys y capten Clapp, eu gollwng o garfan Cymru.

Nodwyd y gêm hon hefyd fel y gêm gyntaf lle na wnaeth y dewiswyr Cymreig unrhyw newidiadau ym mhecyn Cymru gan gadw'r un blaenwyr a chwaraeodd yn erbyn yr Alban. Hwn hefyd oedd y tro olaf i Gymru chwarae naw blaenwr, gan fabwysiadu'r system pedwar tri chwarter ar ôl ei ddefnydd llwyddiannus yn eu gêm yn erbyn Māori Seland Newydd ym mis Rhagfyr 1888.


Yr Alban v. Iwerddon

golygu
10 Mawrth 1888
  yr Alban 1Gôl – dim   Iwerddon
Cais: Macfarlan
Trosiad: Berry
Raeburn Place, Caeredin
Dyfarnwr: J McLaren (Lloegr)

Yr Alban: HFT Chambers (Prifysgol Caeredin), Bill Maclagan (Albanwyr Llundain), HJ Stevenson (Edinburgh Academicals), DJ McFarlan (Albanwyr Llundain), Charles Orr (West of Scotland), Andrew Ramsay Don-Wauchope (Fettesian-Lorettonian), CW Berry (Fettesian-Lorettonian), A Malcolm (Prifysgol Glasgow), A Duke (Royal HSFP), TW Irvine (Edinburgh Academicals), MC McEwan (Edinburgh Academicals), DS Morton (West of Scotland), Charles Reid (Edinburgh Academicals) capt., HT Ker (Glasgow Academicals), TB White (Edinburgh Academicals)

Iwerddon RW Marrow (Lisburn), Maxwell Carpendale (Monkstown), A Walpole (Prifysgol Dulyn), CR Tillie (Prifysgol Dulyn), RG Warren (Landsdowne), JH McLaughlin (Dinas Derry), HJ Neill (C R Gogledd yr Iwerddon) capt., EW Stoker (Wanderers), WA Morton (Prifysgol Dulyn), Victor Le Fanu (Landsdowne), T Shanahan (Landsdowne), CM Moore (Prifysgol Dulyn), J Moffatt (Belfast Academy), RH Mayne (Belfast Academy), W Ekin (Queen's College)

Er i'r Iwerddon golli i’r Alban am y chweched tro yn olynol, fe wnaeth eu sgôr uwch dros Gymru eu galluogi i ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf. Roedd yr ornest hefyd yn nodedig am fod y gêm ryngwladol olaf gan gapten dylanwadol yr Alban, Charles Reid, a ddaeth â’i yrfa i ben gydag ugain cap, record ar gyfer blaenwr ar y pryd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "FOOTBALL - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-02-04. Cyrchwyd 2020-06-16.
  2. "THE FAMOUS VICTORY AT NEWPORT - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-02-11. Cyrchwyd 2020-06-16.
  3. "WALES V IRELAND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-03-05. Cyrchwyd 2020-06-16.

Dolenni allanol

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
Rhagflaenydd
Y Pedair Gwlad 1887
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad
1888
Olynydd
Y Pedair Gwlad 1889