Win Griffiths
Mae Winston (Win) James Griffiths, OBE (ganwyd 11 Chwefror 1943) yn wleidydd Llafur Cymreig.
Win Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1943 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | OBE |
Bu'n Aelod Senedd Ewrop dros etholaeth De Cymru o 1979 hyd 1989 ac yn aelod o Senedd San Steffan dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr o 1987 i 2005.
Fe fu yn Llefarydd yr Wrthblaid ar amgylchedd o 1990 hyd 1992; yn Llefarydd yr Wrthblaid ar addysg o 1992 hyd 1994; Llefarydd yr Wrthblaid ar faterion Cymru o 1994 hyd 1997 ac yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig o 1997 i 1998. Ildiodd ei sedd San Steffan yn etholiad 2005
Mae o bellach yn Gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac fe fu yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg hyd ei ddiddymu ac yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hyd 2012