De Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)

Roedd De Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu canol deheubarth Cymru, gan gynnwys dinas Caerdydd.

Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1979, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.

Pan gafodd ei greu ym 1979 roedd De Cymru yn cynnwys etholaethau seneddol Aberafan, Y Barri, Gogledd Caerdydd, Gogledd Orllewin Caerdydd, De-ddwyrain Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Castell-nedd, Ogwr a Phontypridd.

Ym 1984 cafodd etholaethau y Barri, Gogledd Orllewin Caerdydd, De-ddwyrain Caerdydd a Chastell-nedd yn cael eu disodli gan Pen y bont ar Ogwr, Canol Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth a Bro Morgannwg.

Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu ym 1994, aeth y rhan fwyaf ohoni i etholaeth newydd Canol De Cymru a rhan i Orllewin De Cymru.

Aelodau Etholedig

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1979 Win Griffiths Llafur
1989 Wayne David Llafur

Canlyniad etholiad 1979

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1979: De Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Win Griffiths 77,784 44.1
Ceidwadwyr Stefan Terlezki 66,852 37.9
Rhyddfrydol J C Greaves 17,811 10.1
Plaid Cymru Dafydd Williams 14,029 7.9
Mwyafrif 10,932 6.2
Y nifer a bleidleisiodd 535,752 32.9

Canlyniad etholiad 1984

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1984: De Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Win Griffiths 99,936 51.1
Ceidwadwyr Miss J R Pattman 55,678 28.5
Rhyddfrydol Mrs J D Davies 26,588 13.6
Plaid Cymru Dr Dafydd Huws 13,201 6.8
Mwyafrif 44,258 22.6
Y nifer a bleidleisiodd 509,434 38.4

Canlyniad etholiad 1989

golygu
Etholiad Senedd Ewrop 1989: De Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Wayne David 108,550 54.7
Ceidwadwyr A R Taylor 45,993 23.2
Gwyrdd G P Jones 25,993 13.1
Plaid Cymru Peter J Keelan 10,727 5.4
Democratiaid Cymdeithasol a Rhyddfrydol P K Verma 4,828 2.0
SDP Annibynnol D A T Thomas 3,153 1.6
Mwyafrif 62,557 31.5
Y nifer a bleidleisiodd 520,963 38.1
Llafur yn cadw Gogwydd
  1. 1.0 1.1 United Kingdom European Parliamentary Election results 1979-99: Wales