Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw un o saith o fyrddau iechyd Cymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Enghraifft o'r canlynolbyrddau Iechyd Cymru  
 
Isgwmni/auYsbyty Glanrhyd, Ysbyty Singleton, Ysbyty Treforus, Abertawe, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Cefn Coed, Ysbyty Fairwood  
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig  
RhanbarthAbertawe  
Gwefanhttps://swanseabay.nhs.wales/  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg oedd bwrdd iechyd lleol sy'n gwasanaethu Abertawe, Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, y rhan orllewinol o Fro Morgannwg ac Ystradgynlais ym Mhowys.

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ffurfiol ar 1 Hydref 2009 pan unwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â Byrddau Iechyd Lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pencadlys y bwrdd wedi ei leoli ym Mae Baglan. Prif Weithredwr cyntaf y bwrdd oedd Paul Williams. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar 1 Ebrill 2008 yn dilyn uno Ymddiriedolaethau GIG Abertawe a Bro Morgannwg .

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yw'r ail fwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, yn gwasanaethu 600,000 o bobl ac yn cyflogi 16,000 o staff. Mae gan y bwrdd chyllideb o fwy na £1.3 biliwn y flwyddyn. Mae'r bwrdd yn rheoli 18 o ysbytai a 46 o glinigau a chanolfannau iechyd. Mae wedi ei ddynodi yn ymddiriedolaeth brifysgol sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe.[1] Mae canolfannau hyfforddi wedi'u lleoli yn Ysbyty Singleton[2],[3] a Chlinig Orthopaedig y Plant, Phillips Parade, Abertawe[4].

Ysbytai/Clinigau

golygu
 
Ysbyty Singleton
Ysbytai acíwt yn cael eu dangos mewn llythrennau cyffredin a chlinigau yn cael eu dangos mewn llythrennau italig:
 
Ysbyty Cefn Coed
  • Clinig Angelton  – clinig i bobl Oedrannus Eiddil eu Meddwl (EMI) uned sy'n gofalu am gleifion oedrannus ym Mhen y bont ar Ogwr. Mae'n cynnig gwasanaethau i'r rhai sydd â chlefyd Alzheimer yn bennaf.
  • Glinig Caswell – uned diogelwch canolig wedi ei leoli ar safle Ysbyty Glan-rhyd. 
  • Ysbyty Cefn Coed – ysbyty seiciatrig
  • Ysbyty Cimla  – ysbyty gofal henoed a chanolfan adsefydlu ar gyfer cleifion o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
  • Ysbyty Clydach – yn darparu amrywiaeth o wasanaethau clinigol
  • Ysbyty Fairwood – canolfan gofal dilynol ar gyfer cleifion o Ysbyty Singleton ac Ysbyty Treforys, mae'n cynnwys gwelyau gofal lleol ar gyfer meddygon teulu
  • Ysbyty Garngoch  – gofal henoed
  • Ysbyty Gellinudd – ysbyty gofal henoed ac adsefydlu ym Mhontardawe
  • Ysbyty Glanrhyd (1857–) – yn darparu gofal dilynol, cyfleusterau iechyd meddwl ac uned gofal dydd, wedi ei leoli ym Mhen-y-fai 
 
Ysbyty Glanrhyd
  • Ysbyty Gorseinon  – gofal henoed ac adsefydlu.  Mae gan yr ysbyty adran gleifion allanol a chlinig arbenigol i drin clefyd Parkinson 
  • Unedau Anableddau Dysgu –  mae'r bwrdd yn gyfrifol am ddarparu cartrefi, unedau asesu ac unedau gofal i bobl sy'n byw gydag anableddau dysgu gan gynnwys:
 
Ysbyty Treforys
  • Ysbyty Cymunedol Maesteg  (1912–) – mae'r ysbyty yn darparu  ar gyfer cleifion preswyl gan gynnwys canolfan ddydd, gofal cymunedol a gofal dilynol. Mae yma hefyd adran cleifion allanol a llawfeddygaeth ddydd ar gyfer yr ardal leol. 
  • Ysbyty Treforys, (Abertawe) – Ysbyty hyfforddi prifysgol 
  • Ysbyty Castell nedd Port Talbot (Port Talbot) – ysbyty lleol cyffredinol [5]
  • Clinig Pencoed  – a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cynllunio teulu a bydwreigiaeth
  • Ysbyty Tywysoges Cymru (Pen-y-bont) – ysbyty lleol cyffredinol[6]
  • Ysbyty Singleton (Abertawe) – Ysbyty hyfforddi prifysgol
  • Ysbyty Tonna – canolfan gofal seiciatrig ar gyfer yr henoed yn ardal Castell-nedd, gan gynnwys ysbyty gofal dydd 

Ysbytai sydd wedi cau

golygu
 
HMP Parc
  • Ysbyty Hill House – wedi ei gau yn 2013, roedd yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty ynysu yn wreiddiol cyn ei droi yn ysbyty adsefydlu.
  • Ysbyty Parc Gwyllt  – (1887-1994), cyn ysbyty gofal iechyd meddwl. Safle Carchar y Parc, Pen y bont ar Ogwr bellach.[7]
  • Ysbyty Cefn Hirgoed  – (1906-1990), cyn ysbyty ynysu ac yna ysbyty ar gyfer yr henoed a'r anabl. Cafodd ei ddymchwel i wneud lle i Ganolfan Siopa'r Dderwen, Pen y bont.[8]
  • Ysbyty Heddfan  – (1906-1980), cyn ysbyty ynysu, wedi ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer traffordd yr M4.
  • Ysbyty Cyffredinol Pen-y-bont  – cyn wyrcws a daeth yn ysbyty lleol cyffredinol ym 1900.[9]
  • Ysbyty Penfai  – ysbyty iechyd meddwl, is adran o Ysbyty Parc Gwyllt
  • Ysbyty Maesgwyn  – wedi ei gau yn 2011, cyn ysbyty cymunedol.
  • Ysbyty Blackmill  ar gau ers 1985, cyn ysbyty cymunedol.
  • Ysbyty Llynfi 
  • Ysbyty Groeswen- Port Talbot, sydd Bellach yn stad o dai
  • Ysbyty Cyffredinol Port Talbot  - wedi ei leoli yn Sandfields, Port Talbot - symudwyd y gwasanaethau i Ysbyty Castell nedd Port Talbot
  • Ysbyty Hensol  (1930-2003) – cyn ysbyty anabledd dysgu.

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

golygu
 
Clinig Heol Quarella Pen y bont

Mae'r gan y bwrdd iechyd 9 o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC):[10]

Pen-y-bont ar Ogwr

golygu
  • TIMC Gogledd Pen-y-bont   – wedi ei leoli yn Ysbyty Cymunedol  Maesteg
  • TIMC De Pen-y-bont wedi ei leoli yn Uned Iechyd Meddwl Heol Quarella  Pen-y-bont
  • TIMC Gorllewin y Fro wedi ei leoli yng Nghanolfan Iechyd y Bont-faen

Castell-nedd Port Talbot

golygu
  • TIMC Gogledd Castell-nedd Port Talbot – wedi ei leoli ym Mhontardawe
  • TIMC De Castell-nedd Port Talbot – wedi ei leoli yng Nghanolfan y Forge, Port Talbot

Abertawe

golygu
  • TIMC Gorllewin Abertawe (Ardal 1) – wedi ei leoli yn y Clinig Canolog yn Abertawe
  • TIMC Canol Abertawe (Ardal 2) – wedi ei leoli yn y Clinig Canolog yn Abertawe
  • TIMC Gogledd Abertawe (Ardal 3) – wedi ei leoli yn Ysbyty Coffa'r Rhyfel Clydach[11]
  • TIMC Ystradgynlais – wedi ei leoli yn The Larches, Ystradgynlais

Defnydd o'r sector preifat

golygu

Yn 2015-6 danfonodd y bwrdd 1,599 o gleifion i ddarparwyr yn y sector preifat ar gyfer gweithdrefnau dewisol i leihau amseroedd aros, ar gost o £3.74 miliwn, o gymharu â 317 yn 2014-5 a 160 yn 2013-4.[12]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Abertawe Bro Morgannwg University NHS Trust – About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-05. Cyrchwyd 2018-05-21.
  2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Singleton Hospital adalwyd 21/05/2018
  3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Morriston Hospital adalwyd 21/05/2018
  4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg -Gwasanaethau Pediatreg (Plant) adalwyd 21/05/2018
  5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Neath Port Talbot Hospital adalwyd 21/05/2018
  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Princess of Wales Hospital adalwyd 21/05/2018
  7. Coflein-PARC PRISON; HMP PARC; PARC GWYLLT COUNTY MENTAL HOSPITAL adalwyd 21/05/2018
  8. Bridgend McArthur Glen Designer Outlet - Our stores adalwyd 21/05/2018
  9. Cofline BRIDGEND GENERAL HOSPITAL;OLD WORKHOUSE adalwyd 21/05/2018
  10. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Mental Health Services adalwyd 21/05/2018
  11. "Community Mental Health Teams". City and County of Swansea Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2011-06-16.
  12. "NHS patients treated at private hospitals increases fivefold in Swansea and Neath Port Talbot". South Wales Evening Post. 11 Mai 2016. Cyrchwyd 12 Mai 2016.


Dolenni allanol

golygu