Winifred Fortescue

Roedd Winifred Fortescue (7 Chwefror 18889 Ebrill 1951) yn awdur ac actores Seisnig. Roedd yn wraig i Syr John Fortescue, llyfrgellydd ac archifydd Castell Windsor ac yn hanesydd oedd yn arbenigo ar hanes Byddin Prydain. O 1926 roedd yn cael ei hadnabod wrth y teitl Winifred, Bonesig Fortescue, pan gafodd ei ŵr ei urddo'n farchog.[1]

Winifred Fortescue
Ganwyd7 Chwefror 1888 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd y Fonesig Fortescue (ganwyd Winifred Beech ym 1888) yn ferch i'r Parchedig Howard Beech, Rheithor Great Bealings (o 1886). Addysgwyd hi gartref yn bennaf, ond pan oedd hi'n 16 oed awgrymodd meddyg ei bod yn dioddef o "newyn deallusol", a phenderfynwyd rhoi addysg fwy ffurfiol iddi Dechreuodd mynychu Ysgol Old Cedar House, Slough.[2] Yn ddiweddarach trosglwyddodd yr ysgol i Lundain a daeth yn Wentworth Hall, Mill Hill. Yna mynychodd Ysgol Ddramatig FR Benson i gael ei hyfforddi ar gyfer y llwyfan. Dec ei yrfa fel actores gan berfformio yng nghwmni Syr Herbert Tree, ac yn ddiweddarach bu'n serennu yn The Passing of the Third Floor Back gan Jerome K. Jerome.

Ym 1914 priododd â John Fortescue, er ei fod 28 mlynedd yn iau nag ef. Fe roddodd y gorau i’w gyrfa lwyfan a dechreuodd busnes addurno mewnol a dylunio gwisgoedd nes i salwch ei gorfodi i roi’r gorau iddi. Yna dechreuodd ysgrifennu ar gyfer Punch, y Daily Chronicle a The Evening News, ac yna dechreuodd Dudalen Merched ar gyfer y Morning Post.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Winifred Fortescue yn gweithio gyda milwyr clwyfedig yn Windsor ac yn Llundain, tra bu John yn gweithio ar hanes swyddogol 'dros dro' y rhyfel.[3]

Yn y 1930au symudodd Syr John a'r Fonesig Fortescue i Profens yn Ffrainc, lle dechreuodd ysgrifennu llyfrau. Ei llyfr cyntaf oedd Perfume from Provence.[4] Ysgrifennodd nifer o lyfrau eraill yno. Bu farw ei gŵr o fewn 2 flynedd iddynt symud i Ffrainc ond arhosodd Winifred yno hyd ei orfodi i ffoi wedi goresgyniad yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Marwolaeth golygu

Dychwelodd i Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel a bu farw yn Opio, Profens a chladdwyd ei gweddillion yno.[5]

Llyfryddiaeth golygu

  • 1935 Perfume from Provence
  • 1937 Sunset House
  • 1939 There's Rosemary, There's Rue
  • 1941 Trampled Lilies
  • 1943 Mountain Madness
  • 1948 Beauty for Ashes
  • 1950 Laughter in Provence

Cyfeiriadau golygu

  1. Escape to Provence - Bywgraffiad o Winifred Fortescue gan Maureen Emerson. ISBN 9780955832109
  2. Fortescue, Lady (1939). There's Rosemary, there's Rue. Black Swan. ISBN 0-552-99558-4.
  3. Fortescue (née Beech), Winifred, Lady Fortescue (1888–1951), author. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020
  4. Gwefan 'Perfume from Provence - bywgraffiad adalwyd] 2 Gorffennaf 2020
  5. Find a Grave Memorial 6901736 Lady Winifred Fortescue