Windsor

tref yn Berkshire

Tref yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Windsor.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Mae'n fwyaf adnabyddus fel lleoliad Castell Windsor.

Windsor
Mathtref, ardal ddi-blwyf, tref marchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead, Berkshire
Poblogaeth32,184 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGoslar, Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBerkshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlundain Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.48°N 0.6°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU965765 Edit this on Wikidata
Cod postSL4 Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethWiliam I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganEingl-Sacsoniaid Edit this on Wikidata

Lleolir y dref 21 milltir (34 km) i'r gorllewin o Charing Cross. Mae ar lan de'r Afon Tafwys gyferbyn a Eton. Mae Caerdydd 178 km i ffwrdd o Windsor ac mae Llundain yn 35 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas San Steffan sy'n 33 km i ffwrdd.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Windsor boblogaeth o 31,225.[2]

Mae pentref Old Windsor ("Hen Windsor"), tua dwy filltir i'r de-ddwyrain ac yn cyn-ddyddio beth elwir yn Windsor heddiw o tua 300 blynedd; yn y gorffennol cyfeirwyd at Windsor yn ffurfiol fel Windsor Newydd i wahaniaethu'r ddau.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 12 Ebrill 2020
  2. City Population; adalwyd 13 Ebrill 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Berkshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato