Castell Windsor
palas yn Windsor
Lleolir Castell Windsor yn nhref Windsor, Berkshire, De-ddwyrain Lloegr; dyma'r castell cyfannedd mwyaf yn y byd. Mae'n dyddio'n ôl i oes Gwilym Gwncwerwr, a hwn yw'r castell hynaf i gael ei gyfanheddu'n barhaol. Mae'n un o gestyll enwocaf y byd. Mae arwynebedd llawr y castell yn mesur tua 484,000 troedfedd sgwar (tua 45,000 medr sgwar).
![]() | |
Math |
amgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, castell, palas, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Windsor ![]() |
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Casgliad Brenhinol Lloegr ![]() |
Sir |
Windsor ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gerllaw |
Afon Tafwys ![]() |
Cyfesurynnau |
51.4838°N 0.60483°W ![]() |
Cod OS |
SU9700277033 ![]() |
Cod post |
SL4 1NJ ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
Gothig Sythlin ![]() |
Perchnogaeth |
y Goron ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Ynghyd â Phalas Buckingham yn Llundain a Phalas Holyrood yng Nghaeredin, mae'n un o gartrefi swyddogol teulu brenhinol Prydain. Mae'r Frenhines Elizabeth II yn treulio nifer o benwythnosau yn y castell, gan ei ddefnyddio ar gyfer adloniant brenhinol a phreifat. Ei chartrefi eraill, Tŷ Sandringham a Chastell Balmoral, yw cartrefi preifat y teulu brenhinol Prydeinig.