Winifred Wagner
Awdures o'r Almaen, a anwyd yn Lloegr oedd Winifred Wagner (23 Mehefin 1897 - 5 Mawrth 1980) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hyrwyddwr cerddoriaeth ac awdur llythyrau at Adolf Hitler, a oedd yn gyfaill iddi; roedd hefyd yn ei gefnogi.
Winifred Wagner | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1897 Hastings |
Bu farw | 5 Mawrth 1980 Überlingen |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, llenor |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Priod | Siegfried Wagner |
Plant | Wolfgang Wagner, Wieland Wagner, Friedelind Wagner, Verena Wagner Lafferentz |
Ganed Winifred Marjorie Williams yn Hastings, Dwyrain Sussex a bu farw yn Überlingen ar lan Llyn Bodensee yn yr Almaen.[1][2][3][4][5]
Roedd yn wraig i Siegfried Wagner, mab y cerddor Richard Wagner (1813 – 1883). Yn 1930, wedi marwolaeth ei gŵr, cymerodd drosodd drefniadau Gŵyl Bayreuth, hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Bu'n gohebu am ugain mlynedd gydag Adolf Hitler, a oedd yn ffan mawr o gerddoriaeth ei thad-yng-nghyfraith.
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Saesnes, yn Hastings, i'r newyddiadurwr Emily Florence Karop a John Williams, ond bu'r ddau farw cyn bo Winifried yn ddwy oed. Fe'i maged i ddechrau mewn cartrefi plant amddifad, ond pan oedd yn 8 oed, fe'i mabwysiadwyd gan berthynas pell i'w mam, Henrietta Karop a'i gŵr Karl Klindworth, cerddor, a chyfaill Richard Wagner.[6]
Sefydlwyd Gŵyl Bayreuth gan y cerddor Richard Vagner ei hun, yn bennaf er mwyn llwyfanu Der Ring des Nibelungen a Parsifal. Ystyriwyd yr ŵyl yn fusnes teuluol, gyda rheolaeth yr adeilad a'r cwmni i'w drosglwyddo o Richard Wagner i'w fab Siegfried Wagner, ond ychydig o ddiddordeb mewn priodas a ddangosodd Siegfried, a oedd yn ddeurywiol. Trefnwyd y byddai Winifred Klindworth, fel y'i gelwid ar y pryd, yn 17 oed, yn cwrdd â Siegfried Wagner, 45 oed, yng Ngŵyl Bayreuth ym 1914. Flwyddyn yn ddiweddarach roedden nhw'n briod. Y gobaith oedd y byddai'r briodas yn dod â chyfarfodydd cyfunrywiol Siegfried a'r sgandalau cysylltiedig i ben, ac yn darparu etifedd i gynnal busnes y teulu.
Adolf Hitler
golyguYn 1923, cyfarfu Winifred ag Adolf Hitler, a oedd yn edmygydd mawr o gerddoriaeth Wagner. Pan garcharwyd Hitler am ei ran yng Ngŵyl Gwrw Hitlerputsch (sef coup d'état gan y Blaid Natsiaidd, yr NSDAP, a fethodd), anfonodd Winifred barseli bwyd a deunydd ysgrifennu iddo. Mae'n ddigon posib mai ar y papur hwn yr ysgrifennodd Hitler ei lyfr Mein Kampf (Fy Mrwydr). Ar ddiwedd y 1930au, gwasanaethodd fel cyfieithydd personol i Hitler yn ystod trafodaethau â Phrydain.
Er i Winifred aros yn ffyddlon i Hitler, gwadodd ei bod wedi cefnogi'r blaid Natsïaidd. Tyfodd ei pherthynas â Hitler mor agos nes bod sibrydion o briodas ar fin digwydd, yn 1933 (er bod sibrydion tebyg am ei chariad at y nofelydd Saesneg Hugh Walpole hefyd).[7]
Haus Wahnfried, cartref Wagner yn Bayreuth, oedd hoff encilfa Hitler. Rhoddodd gymorth a chymorth ariannol (eithriad o'r dreth) i'r ŵyl, ac roedd yn gyfeillgar iawn â phlant Winifred.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gynghrair Milwrol dros Ddiwylliant Almaeneg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 3 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Marjorie Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Marjorie Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ How Adolf Hitler fell in love with Sussex orphan; The Argus 4 Chwefror 2004; adalwyd 10 Rhagfyr 2018
- ↑ Hamann, Brigitte (2005) [2002]. Winifred Wagner. Llundain: Granta. ISBN 1862076715. tt. 49 and 99