Mae Wmbreg (Umbrian) yn iaith hynafol farw yn perthyn i'r Osgeg, ac i raddau i'r Lladin, yng nghangen ieithoedd Italaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Gyda'r Osgeg, mae Wmbreg yn ffurfio'r is-gangen Osgo-Wmbreg yn yr ieithoedd Italaidd, ond mae rhai ieithyddion yn dadlau fod yr is-gangen honno'n gangen ar wahân yn y teulu Indo-Ewropeaidd.

Olion golygu

Ar wahân i lond llaw o arysgrifau byrion, daw'r brif dystiolaeth am yr Wmbreg o gyfres o saith tabled efydd o natur ddeddfodol - y Tabledi Igufaidd - a ddarganfuwyd yn adfeilion Teml Iau yn Gubbio (yr Iguvium glasurol), yn 1444.

Gyda 4,000 o eiriau, hyn yw'r cofnod llawnaf o hen ieithoedd yr Eidal sydd wedi goroesi, ac eithrio'r Lladin, wrth gwrs. Mae'r rhan fwyaf o gynnwys y tabledi wedi ei ysgrifennu mewn ysgrifen hynafol frodorol sydd wedi'i seilio ar yr Wyddor Etrwseg. Dichon bod y tabledi hyn yn dyddio o tua 200 C.C..

Nid yw'r orgraff yn sefydlog, ffaith sy'n awgrymu nad oedd yr Wmbreg wedi datblygu'n iaith lenyddol safonol, mewn gyferbyniad â'r Osgeg.

Rhai geiriau Wmbreg golygu

  • inuk wedyn, yna
  • frater brodyr
  • uhtur oracl, augur
  • sakre offrwm (cf. (a) sacrifice)
  • uvem dafad (cf. Lladin ovis)
  • arv(am) cae (cf. erw)
  • pir tân

Llyfryddiaeth golygu

  • C.D. Buck, A Grammar of Oscan and Umbrian (1928)