Gubbio
Tref hynafol a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Gubbio. Fe'i lleolir yn nhalaith Perugia yn rhanbarth Umbria. Saif ar lethr isaf Mynydd Ingino, mynydd bach yn yr Apenninau.
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Gubbio |
Poblogaeth | 30,479 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Ubaldo Baldassini |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Perugia |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 525.78 km² |
Uwch y môr | 522 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Cagli, Costacciaro, Gualdo Tadino, Pietralunga, Sigillo, Valfabbrica, Cantiano, Perugia, Scheggia e Pascelupo, Umbertide, Fossato di Vico |
Cyfesurynnau | 43.3518°N 12.5773°E |
Cod post | 06024, 06020 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Gubbio |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 32,432.[1]
Hanes
golyguMae gwreiddiau'r dref yn hynafol iawn. Roedd yn anheddiad bwysig i lwyth yr Wmbri, o dan yr enw Ikuvium yn y cyfnod cyn-Rufeinig. Yn 1444 darganfuwyd yno tabledi efydd, y Tabledi Igufaidd, sy'n cynnwys y testun mwyaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Wmbreg.
Ar ôl y goncwest Rufeinig yn yr 2g CC parhaodd y dref yn bwysig, fel y tystiwyd gan ei theatr Rufeinig, yr ail-fwyaf yn y byd i oroesi. Ei henw Lladin oedd Iguvium.
Daeth Gubbio yn bwerus iawn ar ddechrau'r Oesoedd Canol. Anfonodd y dref 1,000 o farchogion i ymladd yn y Groesgad Gyntaf (1096–9). Roedd y canrifoedd dilynol yn gythryblus, ac roedd Gubbio yn rhyfela yn aml yn erbyn trefi cyfagos. Yn un o'r rhyfeloedd hyn ei esgob, Ubaldo Baldassini (c.1084–1160) a arweiniodd fyddin y dref (trwy wyrth yr honnwyd) i fuddugoliaeth ysgubol (1151) a chyfnod o ffyniant i'r dref. Ef bellach yw nawddsant y dref, a bob blwyddyn y mae gwyl fawr (Corsa dei Ceri) ar noswyl ei ddygwyl ar 16 Mai.
Yn y pen draw ymgorfforwyd Gubbio i diriogaethau teulu Montefeltro, dugiaid Urbino. O 1631 hyd 1860 roedd yn rhan o Daleithiau'r Babaeth.
Chwedl Sant Ffransis a'r Blaidd
golyguMae'r dref yn adnabyddus am chwedl Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd rheibus a chodai arswyd ar y dref, ond a ddaeth wedyn yn breswylydd hydrin y lle.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 23 Tachwedd 2022
Oriel
golygu-
Olion yr hen theatr Rufeinig
-
Palazzo dei Consoli
-
Palazzo Ducale, gyda Palazzo dei Consoli ar y chwith
-
Golygfa dros y dref o Palazzo dei Consoli
-
Corsa dei Ceri, gwyl a ddethlir ar 15 Mai bob blwyddyn
-
Basilica Sant Ubaldo