Grŵp ethnig sy'n byw yn Senegal, Gambia a Mawritania yng ngorllewin Affrica yw'r Woloff, hefyd Wolof neu Ouolof.

Woloff
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
GwladwriaethSenegal, Y Gambia, Mawritania Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ardaloedd traddodiadaol y Woloff yn Senegal

Yn Senegal, mae tua 40% o'r boblogaeth yn eu hystried eu hunain yn Woloff. Hwy yw mwyafrif y boblogaeth yn yr ardal rhwng Saint-Louis yn y gogledd, Kaolack yn y canolbarth a Dakar yn y gorllewin. Er mai Ffrangeg yw iaith swyddogol Senegal mae tua 80% o boblogaeth y wlad yn siarad yr iaith Woloffeg, yn cynnwys pobl nad ydynt yn aelodau o grŵp ethnig y Woloff ac sy'n ei siarad fel ail iaith.

Mae'r Woloff yn ffurfio tua 15% o boblogaeth Y Gambia, yn cynnwys tua 50% o boblogaeth y brifddinas, Banjul. Ym Mawritania, mae'r Woloff yn ffurfio tua 7% o'r boblogaeth.