Saint-Louis, Senegal

(Ailgyfeiriad o Saint-Louis, Sénégal)

Dinas yn Senegal sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw yw Saint-Louis, neu Ndar yn yr iaith Wolof leol. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin eithaf Senegal ger y ffin a Mauritania, tua 25 km o aber Afon Senegal, a 320 km i'r gogledd o Dakar, prifddinas Senegal. Mae ganddi boblogaeth o tua 176,000 (amcangyfrifiad 2005). Saint-Louis oedd prifddinas gwladfa Ffrengig Senegal o 1673 hyd annibyniaeth y wlad yn 1960 ac mae dylanwad Ffrainc yn amlwg ar y bensaernïaeth arbennig, y diwylliant lleol a'r iaith. O 1920 hyd 1957 bu'n brifddinas gwladfa Ffrengig Mawritania hefyd.

Saint-Louis
Mathdinas, commune of Senegal, dinas fawr, department of Senegal Edit this on Wikidata
Poblogaeth176,000, 209,752, 154,555, 258,592, 237,563 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1659 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCheikh Bamba Dièye Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthern Senegal, Four Communes Edit this on Wikidata
SirSaint-Louis Department, French Senegal Edit this on Wikidata
GwladBaner Senegal Senegal
Uwch y môr22 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Senegal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau16.03°N 16.5°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCheikh Bamba Dièye Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y ddinas nifer o adeiladau hardd o'r cyfnod Ffrengig ac mae'r diwylliant lleol wedi cael ei ddisgrifio fel rhan o'r diwylliant Creol traws-Iwerydd, gan ei fod yn gorwedd ger lan Cefnfor Iwerydd ac yn rhannu llawer mewn cyffredin a dinasoedd Creol eraill fel Bahia, Havana a New Orleans.

Mae'n cynnal sawl digwyddiad cerddorol ac artistig ac yn denu twristiaid o bob man, ond yn enwedig o Ffrainc, i gael blas ar ei bywyd a diwylliant unigryw.

Mae Ynys Saint-Louis, lle lleolir yr hen ddinas yng nghanol Afon Senegal, ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Stryd yn Saint-Louis gyda phensaernïaeth nodweddiadol
Merched lleol yn un o'r strydoedd

Gefeilldrefi

golygu

Dolenni allanol

golygu