Wyn Lodwick
Cerddor jazz o Gymro oedd Wyn Lodwick (15 Mawrth 1927 – 25 Ebrill 2024).[1] Roedd yn chwarae'r clarinet a'r piano.
Wyn Lodwick | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mawrth 1927 Llanelli |
Bu farw | 25 Ebrill 2024 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor, morwr |
Ganwyd Wynford John Allen Lodwick yn 38 Marble Hall Rd., Llanelli ac roedd yn byw yn Y Pwll ger Llanelli. Gwasanaethodd fel technegydd yn y Llynges Frenhinol. Yn 1950 cychwynodd glwb jazz yn Llanelli gan gynnal nosweithiau yng Ngwestai'r Dock, Melbourne, The White Hart a Stepney Hotel. Am chwarter canrif bu'n perfformio sawl gwaith y flwyddyn gyda'r enwog Harlem Blues and Jazz Band. Cyfarfu nifer o enwogion y byd jazz yn ei yrfa, gan gynnwys Louis Armstrong.
Bu'n ymddangos yn gyson yn Theatr Elli ac ymddangosodd ar nifer fawr o raglenni teledu a radio.[2] Roedd e a'i fand jazz yn chwarae'r gerddoriaeth ar y sioe materion cyfoes Y Byd Yn Ei Le yn yr 1980au.
Daeth Lodwick yn gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Cymreig a roedd yn rhan o sefydlu Gŵyl Jazz Cymru a Gŵyl Jazz Aberhonddu. Fe'i urddwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016 gyda'r enw barddol 'Pibydd Harlem', gan dderbyn y wisg werdd.[3]
Ysgrifennodd hunangofiant Wyn a'i Fyd a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch yn 2009.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Rosemary ac roedd ganddynt un mab, Neil.
Bu farw yn 97 mlwydd oed yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.[4][1]
Disgyddiaeth
golygu- Y Band Yn Ei Le (Recordiau 1.2.3, AW 25V, LP feinyl)
- Jazz O Gymru (Wyn Lodwick, WL001, Albwm caset)
- O Bump Hewl I Harlem (Wyn Lodwick, WL002, Albwm caset)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Click here to view the tribute page for Wynford LODWICK". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-04.
- ↑ Watch Llanelli jazz legend show why he has been recognised for an incredible career (en) , South Wales Evening Post, 23 Awst 2016. Cyrchwyd ar 17 Mawrth 2017.
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol: 31 yn cael eu derbyn i’r Orsedd , Golwg360, 5 Mai 2016. Cyrchwyd ar 17 Mawrth 2017.
- ↑ "Y cerddor jazz Wyn Lodwick wedi marw yn 97 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-04-29. Cyrchwyd 2024-04-29.