Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

prifwyl ger y Fenni, Sir Fynwy

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 ger y Fenni, Sir Fynwy rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst 2016. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yng Nghil-y-Coed ar 27 Mehefin 2015[3]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Dolydd y Castell, Y Fenni
Cynhaliwyd 29 Gorffennaf-6 Awst 2016
Archdderwydd Geraint Lloyd Owen
Daliwr y cleddyf Robin McBryde
Cadeirydd Frank Olding
Llywydd Dr Elin Jones
Nifer yr ymwelwyr 140,297[1]
Enillydd y Goron Elinor Gwynn
Enillydd y Gadair Aneirin Karadog
Gwobr Daniel Owen Guto Dafydd
Gwobr Goffa David Ellis Kees Huysmans
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Steffan Rhys Hughes
Gwobr Goffa Osborne Roberts Steffan Lloyd Owen
Gwobr Richard Burton Rebecca Hayes
Y Fedal Ryddiaith Eurig Salisbury
Medal T.H. Parry-Williams Mair Carrington Roberts
Y Fedal Ddrama Hefin Robinson
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Hannah Roberts
Tlws y Cerddor Gareth Olubunmi Hughes
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Robert Lewis
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Richard Bevan
Medal Aur am Grefft a Dylunio Lisa Krigel
Gwobr Ivor Davies Gwenllian Llwyd
Gwobr Dewis y Bobl Robert Davies
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Gwenllian Llwyd
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Hall + Bednarczyk
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Efa Lois Thomas[2]
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Guto Roberts
Gwefan eisteddfod.cymru

Llywydd yr Ŵyl oedd Dr Elin Jones o Ystrad Mynach, hanesydd nodedig sydd hefyd yn weithgar yn y maes iechyd meddwl.[4]

Ymhlith y 31 unigolyn a fydd yn cael eu anrhydeddu, bydd cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Jones, o'r Bala a Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd a Gwenda Thomas, cyn-Aelod Cynulliad y Blaid Lafur dros Gastell-nedd. Hefyd derbyniodd Roger Boore, Caerdydd, sylfaenydd Gwasg y Dref Wen y wisg las ac anrhydeddwyd Gwyn Elfyn, yr actor (Pobol y Cwm) gyda'r wisg werdd am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru.[5] Cafwyd beirniadaeth ar yr archdderwydd gan nad anrhydeddwyd yr un o chwaraewyr pêl-droed Cymru er iddynt sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.[6] Ar ddydd Mercher yr eisteddfod, fodd bynnag, cafwyd dau gynrychiolydd o Gymdeithas Bêl-droed Cymru: yr Is-Hyfforddwr, Osian Roberts, a phennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes.

Prif gystadlaethau golygu

Y Gadair golygu

Hanner can mlynedd ers i Dic Jones gipio'r gadair yn Eisteddfod Aberafan 1966 am ei awdl 'Y Cynhaeaf' enillodd Aneirin Karadog o Bontyberem am awdl a oedd yn cynnwys adleisiau bwriadol o awdl 'Y Gwanwyn' gan Dic Jones. Tudur Dylan Jones oedd yn traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws a dywedodd fod naw wedi cystadlu ar y testun 'Ffiniau'.

Y Goron golygu

Enillydd y goron oedd Elinor Gwynn (ffugenw 'Carreg Lefn') o Rhostryfan ger Caernarfon; roedd 33 wedi cystadlu a'r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Llwybrau'. Y tri beirniad oedd Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones.

Gwobr Goffa Daniel Owen golygu

Enillydd y wobr oedd Guto Dafydd gyda'i nofel Ymbelydredd, gyda naw o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, wedi ei gyflwyno gan Gymuned Llanofer. Y beirniaid oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F. Williams.

Y Fedal Ryddiaith golygu

Enillydd y fedal oedd Eurig Salisbury o Aberystwyth; roedd 14 o ymgeiswyr i gyd a'r dasg oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Galw'. Y tri beirniaid oedd: Angharad Dafis, Dafydd Morgan Lewis a Jane Aaron.

Tlws y Cerddor golygu

Enillydd y tlws oedd Gareth Olubunmi Hughes o Gaerdydd, yr ail dro iddo ennill ar ôl ei lwyddiant yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012. Y dasg oedd cyfansoddi pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gan fardd cyfoes. Y wobr yw Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750 ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol. Y beirniaid oedd Jeffrey Howard ac Osian Llŷr Rowlands.[7]

Y Fedal Ddrama golygu

Enillydd y fedal oedd Hefin Robinson, yn wreiddiol o Gaerfyrddin, am ei ddrama Estron; roedd 12 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Aled Jones Williams, Catrin Jones Hughes a Ffion Haf.

Rhai digwyddiadau golygu

Y Lle Celf golygu

Y Lle Celf yw oriel gelfyddydau gweledol yr Eisteddfod ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf poblogaidd ar y Maes gan ddenu, fel arfer, hyd at 40,000 o ymwelwyr. Mae’r oriel yn gartref i waith rhai o artistiaid blaenaf Cymru, a’r gwaith wedi'i ddewis fel rhan o’r arddangosfa agored; mae gwaith enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a’r Fedal Aur am Bensaernïaeth i’w gweld yn Y Lle Celf. Ymhlith y digwyddiadau roedd Dafydd Iwan yn arwain sesiwn am y pensaer Dewi-Prys Thomas.

Caffi Maes B golygu

Cafwyd cerddoriaeth acwstig, gweithdai, comedi, sgyrsiau gyda cherddorion ac artistiaid a phob math o weithgareddau am y sîn roc Gymraeg. Ymhlith y bandiau a'r cerddorion roedd:

  • Hyll: band o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Maldwyn.
  • Sorela: grŵp gwerin harmoni newydd o Aberystwyth. Penderfynodd y tair chwaer, Gwenno, Mari a Lisay, ffurfio Sorela ar ôl blynyddoedd o ganu gyda'u mam, Linda Griffiths, o’r grŵp gwerin Plethyn.
  • Argrph: Band wedi'u dylanwadu gan gerddoriaeth surf-rock o orllewin U.D.A, gyda chymysgedd o elfennau grunge a bandiau mwy trwm a psychedelic y sîn yng Nghymru. Mae'r caneuon wedi eu hysgrifennu gan Emyr Siôn, sydd hefyd yn canu a chwarae gitâr, gydag Alun Bryn ar y bas a Tomos Evans ar y drymiau.
  • Cadno: Band arall o Gaerdydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2015. Eu sengl gyntaf oedd Ludagretz a ryddhawyd ar label JigCal.
  • Trwbz: Band a chyfuniad cymysg o roc, pop a'r blŵs.
  • Cpt Smith: Mae Cpt Smith yn dilyn ôl traed 'Y Ffug' fel cyn-ddisgyblion yn Ysgol y Preseli, gyda'u cerddoriaeth pync. Rhyddhawyd y sengl ddwbl 'Llenyddiaeth // Bad Taste' ganddynt ar label Ka Chinh.

Maes D golygu

Maes D (neu 'Babell y Dysgwyr') yw’r lle i ddysgwyr Cymraeg neu am wybodaeth am yr iaith. Yma, daw pobl at ei gilydd i gymdeithasu, cystadlu, rhannu profiadau, mwynhau cwmni siaradwyr Cymraeg ac i gael gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg. Cystadleuaeth fwyaf Adran y Dysgwyr yw Dysgwr y Flwyddyn. Un o'r sesiynau a drefnwyd ar gyfer Maes D oedd sesiwn o gerddoriaeth gwerin gyda Dylan Fowler a Gill Stevens, dau gerddor sydd wedi perfformio ar draws y byd, ac sy’n defnyddio pob math o offerynnau, gan gynnwys y crwth fel rhan o’u perfformiad.

Tŷ Gwerin golygu

 
Sian James yn Nhŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Trefnwyd y Tŷ Gwerin mewn partneriaeth gyda Trac, Clera a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru. Mae'r babell yn ymwneud gyda thraddodiadau gwerin Cymru yn yr ystyr ehangaf bosibl, gyda chyfle i fwynhau rhai o’n traddodiadau cynhenid mewn ffordd newydd (ee Stomp Cerdd Dant) yn ogystal â sesiynau ar bynciau cyffredinol.

Anrhydeddau'r Orsedd golygu

Un o ofynion yr Orsedd yw fod pob person a enwebir yn gallu siarad Cymraeg. Cant eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 5 Awst.

Gwisg Las
  • Roger Boore, Caerdydd – Sylfaenydd Gwasg y Dref Wen
  • Rhiannon Davies, Y Fenni – Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Robin Harries Aled Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw – Arweinydd y gwaith o godi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni a sylfaenydd Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch
  • H Ellis Griffiths, Dinas Powys – Pennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw
  • Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin – Pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell
  • Emyr Wyn Jones, Y Bala – cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru 2011-15
  • Richard Jones, Wrecsam – Pencampwr plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol, yn benodol ym maes Syndrom Down
  • Elin Maher, Casnewydd – sylfaenydd Menter Casnewydd
  • Aled Wyn Phillips, Caerdydd - un fy llywio bywyd cymdeithasol Cymraeg Caerdydd ers y 1980au
  • Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf – am ei gyfraniad dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda a Chanolfan Hywel Dda
  • Philip Brian Richards, Aberpennar – Barnwr
  • Elizabeth Saville Roberts, Morfa Nefyn – Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd
  • Sue Roberts, Pwllheli – cydlynydd Cylch Catholig Cymru, gan weithio i ddod â’r Gymraeg yn rhan o’r Eglwys
  • Ceri Thomas, Y Fenni – Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni
  • Gwenda Thomas, Castell-nedd – cyn Aelod Cynulliad Castell-nedd
  • John Gordon Williams, Lerpwl – cyn llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg ac aelod blaenllaw o gymuned Gymraeg Lerpwl
  • Gwyneth Williams, Pontsenni – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
  • Dafydd Wyn, Glanaman – un o sylfaenwyr papur bro Glo Mân a bardd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol
Gwisg Werdd
  • Carole Collins, Prion, Dinbych - un sy’n gweithio dros y Gymraeg yn ei bro ac a lwyddodd i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal.
  • Martha Davies, Lincoln, Nebraska – a ddysgodd Cymraeg ar ôl symud i Aberystwyth am bedair blynedd, sydd hefyd yn rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska.
  • Jennifer Eynon, Wrecsam – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc
  • Gruffydd John Harries, Mwmbwls, Abertawe – Cerddor, sydd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau
  • Anne Hughes, Tongwynlais – arbenigwraig y ddawns werin Gymreig ac un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent
  • Ken Hughes, Cricieth – pennaeth cynradd a fu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 1990
  • Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli – actor a Chadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli
  • Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth – cadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac un sydd wedi codi miloedd i elusennau drwy fudiadau dyngarol yng Ngheredigion
  • Siân Lewis, Caerdydd – Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, a fu’n gyfrifol dros ddechrau gŵyl Tafwyl yn y ddinas a datblygiad Yr Hen Lyfrgell diweddar
  • Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli – cerddor jazz, sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt
  • Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst – athrawes a chyfansoddwraig sydd wedi cyfrannu dros yr iaith a diwylliant ei hardal
  • Dafydd Meirion Roberts, Caernarfon – Prif Weithredwr cwmni recordio Sain, ac aelod o Ar Log
  • Godfrey Wyn Williams, Trefor, Llangollen – cyn-berchennog yr orsaf radio, Marcher Sound

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ffigurau Ymwelwyr 06.08.16. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 6 Awst 2016.
  2. Eryl Crump. Aberystwyth architecture student Efa Lois Thomas is awarded National Eisteddfod scholarship , Daily Post, 30 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd ar 7 Awst 2016.
  3. "Dathlu cyhoeddi'r Eisteddfod yn Sir Fynwy". golwg360.
  4. Cyhoeddi llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy , BBC Cymru Fyw, 8 Chwefror 2016.
  5. Gwefan golwg360; adalwyd 31 Gorffennaf 2016
  6. Gwefan golwg360; adalwyd 31 Gorffennaf 2016
  7. Tlws y Cerddor i Gareth Olubunmi Hughes , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2016.