The X Factor
(Ailgyfeiriad o X Factor)
Mae The X Factor yn rhaglen deledu a ddechreuodd ym Mhrydain. Cafodd y rhaglen ei dyfeisio er mwyn disodli'r rhaglen hynod boblogaidd Pop Idol. Mae'r cystadlaethau sydd bellach yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o wledydd, yn cynnwys nifer o'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn gantorion pop.
The X Factor | |
---|---|
Genre | Sioe dalentau |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 7 |
Nifer penodau | 177 (erbyn 9 Hydref 201 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 60 - 120 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | ITV |
Darllediad gwreiddiol | 4 Medi, 2004 – Presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae'r "X Factor" yn cyfeirio at "rywbeth" na ellir ei ddiffinio sydd yn gwneud rhywun yn seren. Gan amlaf cytundeb recordio yw'r wobr yn ogystal â'r cyhoeddusrwydd mae'r rhaglenni olaf y gyfres yn darparu, nid yn unig i'r enillydd ond hefyd i'r cystadleuwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.