Xenophon
Cadfridog a hanesydd Groegaidd oedd Xenophon (Hen Roeg: Ξενοφῶν, Groeg diweddar:: "Ξενοφών", "Ξενοφώντας"; c.. 431 CC – 355 CC).
Xenophon | |
---|---|
Ganwyd | c. 430 CC Erchia |
Bu farw | c. 354 CC Corinth |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | hanesydd, hurfilwr, athronydd, person milwrol, llenor |
Swydd | strategos |
Adnabyddus am | Hiero |
Plant | Gryllus, Diodorus |
Ganed ef tua 430 CC gerllaw dinas Athen, yn fab i Gryllus ac o deulu uchelwrol. Yn 401 CC, cymerodd ran yn ymgyrch Cyrus yr Ieuengaf i geisio cipio gorsedd Ymerodraeth Persia oddi ar ei frawd, Artaxerxes II. Roedd byddin Cyrus yn cynnwys tua 10,000 o hurfilwyr Groegaidd.
Ym mrwydr Cunaxa, i’r gogledd o ddinas Babilon, lladdwyd Cyrus yn yr ymladd. Gwahoddodd Artaxerxes II arweinydd y Groegiaid, Clearchus. i gynhadledd heddwch, ond cymerodd ef yn garcharor a’i ddienyddio. Etholodd y Groregiaid arweinyddion newydd, yn cynnwys Xenophon, cyn ymladd eu ffordd yn ôl at yr arfordir. Ysgrifennodd Xenophon hanes taith y Deng Mil yn ôl i Wlad Groeg fel yr Anabasis ("Yr Ymgyrch”).
Yn ddiweddarach, alltudiwyd ef o Athen, efallai am iddo ymladd dros Sparta yn erbyn Athen ym Mrwydr Coronea yn 394 CC. Roddodd Sparta dir iddo ger Olympia yn Elis. Caniatawyd iddo ddychwelyd i Athen wedi i’w fab, Gryllus, farw yn ymladd dros Athen ym Mrwydr Mantinea.
Roedd yn edmygydd o Socrates ac ysgrifennodd nifer o weithiau ar ei athroniaeth. Mae ei fersiwn ef o Socrates yn bur wahanol i fersiwn Platon.