Xhosa (iaith)

iaith

Iaith a siaredir gan grŵp ethnig y Xhosa yn Ne Affrica yw Xhosa; yn yr iaith ei hun isiXhosa. Mae'n un o'r ieithoedd Nguni, sy'n is-deulu o'r ieithoedd Bantu.

Siaredir yr iaith yn bennaf yn ne-ddwyrain De Affrica, er bod y nifer o siaradwyr o gwmpas Tref y Penrhyn yn cynyddu. Gyda tua 8 miliwn o siaradwyr, Xhosa yw'r ail iaith fwyaf cyffredin fel mamiaith yn Ne Affrica, ar ôl Swlw, sy'n perthyn yn agos iddi.

Gramadeg

golygu

Fel ymhob un o'r ieithoedd Bantu, mae ei gramadeg yn seiliedig ar nifer o ddosbarthiadau; wyth o ddosbarthiadau yn y ffurf unigol, a phump yn y lluosog.

Esiampl:

Umntwana (plentyn) (dosbarth 1) ; ukubona (gweld) (dosbarth 15); indoda (dyn) (dosbarth 9)
  • Umntwana ubona indoda (mae'r plentyn yn gweld y dyn)
  • Abantwana babona indoda (mae'r plant yn gweld y dyn)
  • Indoda ibona umntwana (mae'r dyn yn gweld y plentyn)