Grŵp ethnig yn Ne Affrica yw'r Cosa (Xhosa, Xosa, AmaXhosa neu Ama-Xosa). Ceir y rhan fwyaf ohonynt yn ne-ddwyrain y wlad, er bod poblogaeth sylweddol mewn rhannau eraill hefyd. Maent yn siarad iaith Xhosa neu isiXhosa, sy'n aelod o deulu'r ieithoedd Bantu. Fe'n rhennir yn nifer o is-raniadau, y Bhaca, Bomvana, Mfengu, Mpondo, Mpondomise, Xesibe, a'r Thembu. Mae Nelson Mandela, yr enwocaf o'r Xhosa, yn aelod o'r Thembu.

Nelson Mandela, yr enwocaf o'r Xhosa

Ceir tua 8 miliwn o'r Xhosa i gyd, a'r iaith Xhosa yw'r ail iaith fwyaf cyffredin fel mamiaith yn Ne Affica, ar ôl Swlw, sy'n perthyn yn agos iddi. Ymddengys i'r Xhosa symud i mewn i'r tiroedd sy'n awr yn Dde Affrica o'r gogledd. Bu cyfres o ryfeloedd rhyngddynt hwy a'r Ymerodraeth Brydeinig yn rhan gyntaf y 19g.

Xhosa enwog golygu