Ieithoedd Nguni
Mae'r ieithoedd Nguni (hefyd, weithiau isiNguni [1] yn grŵp o ieithoedd Bantw sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a siaredir yn ne Affrica (yn bennaf De Affrica, Zimbabwe a Theyrnas eSwatini) gan bobl Nguni. Mae ieithoedd Nguni yn cynnwys Xhosa (isiXhosa), Swlŵeg (isiZulu), Ndebele, a siSwati (adnebir hefyd fel Swazi) (gelwir hefyd yn seSwati, hefyd yn flaenorol, Swazi). Mae'r tadogaeth "Nguni" yn deillio o fath o wartheg brodorol, gwartheg Nguni. Mae Ngoni (gweler isod) yn amrywiad hŷn, neu wedi'i symud.
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | Southern Bantu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dadleuir weithiau fod y defnydd o Nguni fel label generig yn awgrymu undod monolithig hanesyddol y bobl dan sylw, lle y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn fwy cymhleth mewn gwirionedd.[2] Mae defnydd ieithyddol y label (sy'n cyfeirio at is-grŵp o Bantw) yn gymharol sefydlog.
O safbwynt golygyddol Saesneg, mae'r erthyglau "a" ac "an" ill dau yn cael eu defnyddio gyda "Nguni", ond mae "a Nguni" yn amlach a gellir dadlau yn fwy cywir os ynganir "Nguni" fel yr awgrymir.
Dosbarthiad
golyguMae'r ieithoedd Nguni yn perthyn yn agos, ac mewn llawer o achosion mae gwahanol ieithoedd yn gyd-ddealladwy; yn y modd hwn, efallai y byddai'n well dehongli ieithoedd Nguni fel continwwm tafodieithol nag fel clwstwr o ieithoedd ar wahân. Ar fwy nag un achlysur, mae cynigion wedi'u cyflwyno i greu iaith Nguni unedig.[3][4]
Mewn llenyddiaeth ysgolheigaidd ar ieithoedd de Affrica, ystyrir yn draddodiadol bod y categori dosbarthiadol ieithyddol "Nguni" yn cynnwys dau is-grŵp: "Zunda Nguni" a "Tekela Nguni."[5][6] Mae'r rhaniad hwn yn seiliedig yn bennaf ar y gwahaniaeth ffonolegol amlwg rhwng cytseiniaid coronaidd cyfatebol: Zunda /z/ a Tekela /t/ (felly ffurf frodorol yr enw Swati a'r ffurf Zulu mwy adnabyddus Swazi), ond mae llu o newidynnau ieithyddol ychwanegol sy'n galluogi rhaniad cymharol syml i'r ddau hyn is-ffrwd Nguni.
Ieithoedd (neu continiwwm) Tekela
golygu- Bhaca [7]
- Hlubi[8]
- Lala
- Nhlangwini
- Ndebele Gogledd Transvaal (Sumayela Ndebele)
- Phuthi [9] (tua 20,000 siaradwr, [3] iaith cydnabyddiedig yn Ne Affrica, iaith leiafrifol yn Lesotho)
- siSwati (adnebir hefyd fel Swazi neu Swati, dros 2 miliwn siaradwr gan gynnwys 1.3 yn Ne Affrica,[10] ac iaith swyddol yn nheyrnas Eswatini a De Affrica)
Ieithoedd (neu continwwm) Zunda
golygu- Matabele (Gogledd Ndebele or 'Ndebele Zimbabwe'; (dros 4 miliwn siaadwr yn 2000,[11] un o ieithoedd swyddogol Zimbabwe)
- De Ndebele (tua 2 miliwn siaradwr,[10] iaith swyddgol yn Ne Affrica)
- Xhosa (oddeutu 8 miliwn siaradwr,[10] ac un o ieithoedd swyddogol De Affrica)
- Swlŵeg (tua 12 miliwn siaradwr yn 2011,[10] un o ieithoedd swyddogol De Affrica)
Noder: Mae Maho (2009) hefyd yn rhestru S401 Hen Mfengu†.
Priodweddau ffonetig nodweddiadol
golygu- Pum llafariad trwy gyfuno llafariaid Proto-Bantu sydd bron yn gaeedig a chaeedig (eithriadau yn Phuthi)
- Bron bob amser straen ar y sillaf olaf ond un
- Gwahaniaeth rhwng ynganiad uchel ac isel mewn rhagddodiaid enwau
- Defnydd o gytseiniaid anadlol (llais anadl), sy'n gweithredu'n rhannol fel "cytseiniaid iselydd" (cytseiniaid iselydd)[12]
- Defnyddio cytseiniaid dyhead
- Defnyddio synau clicio (ac eithrio yn Ndebele Gogleddol), ffwythiant na fodolir mewn ieithoedd Bantu eraill</ref name="fideo">
Cymharu iaith
golyguCymharer y brawddegau isod:
Iaith | "Rwy'n hoffi dy ffyn newydd" |
---|---|
Swlŵeg | Ngi-ya-zi-thanda izi-nduku z-akho ezin-tsha |
Xhosa | Ndi-ya-zi-thanda ii-ntonga z-akho ezin-tsha |
Gogledd Ndebele | Ngi-ya-zi-thanda i-ntonga z-akho ezin-tsha |
De Ndebele | Ngi-ya-zi-thanda iin-ntonga z-akho ezi-tjha |
Bhaca | Ndi-ya-ti-thsandza ii-ntfonga t-akho etin-tsha |
Hlubi | Ng'ya-zi-thanda iin-duku z-akho ezintsha |
Swazi | Ngi-ya-ti-tsandza ti-ntfonga t-akho letin-sha |
Mpapa Phuthi | Gi-ya-ti-tshadza ti-tfoga t-akho leti-tjha |
Sigxodo Phuthi | Gi-ya-ti-tshadza ti-tshoga t-akho leti-tjha |
Noder: Xhosa ⟨tsh⟩ = Phuthi ⟨tjh⟩ = IPA [tʃʰ]; Phuthi ⟨tsh⟩ = [tsʰ]; Zulu ⟨sh⟩ = IPA [ʃ], ond, yn yr cyd-destun rhoddir yma, mae /ʃ/ yn "nasally permuted" i [tʃ]. Phuthi ⟨jh⟩ = lleisiad anadlog [dʒʱ] = Xhosa, Zulu ⟨j⟩ (yn y cyd-destun rhoddir yma, mae'r trwynol [n]). Zulu, Swazi, Hlubi ⟨ng⟩ = [ŋ].
Language | "Rwy'n deall ond ychydig Saesneg" |
---|---|
Swlŵeg | Ngisi-zwa ka-ncane isi-Ngisi |
Xhosa | Ndisi-qonda ka-ncinci nje isi-Ngesi |
Gogledd Ndebele | Ngisi-zwisisa ka-ncane isiKhiwa [13] |
De Ndebele | Ngisi-zwisisa ka-ncani nje isi-Ngisi |
Hlubi | Ng'si-visisisa ka-ncani nje isi-Ngisi |
Swazi | Ngisiva ka-ncane nje si-Ngisi |
Mpapa Phuthi | Gisi-visisa ka-nci të-jhë Si-kguwa |
Sigxodo Phuthi | Gisi-visisa ka-ncinci të-jhë Si-kguwa |
Noder: Phuthi ⟨kg⟩ = IPA [x].
Cyd-dealltwriaeth Cyfoes ar y Cyfryngau
golyguCeir elfen gref o ddealltwriaeth ar draws y gwahanol ieithoedd neu beth gellid disgrifio fel continiwm tafodiaith. Gwelir enghreifftiau ar y we:
- Mae Comedy Central Africa ar Youtube yn llwytho sioeau comedi dan yr iaith a frandir fel Nguni sy'n cynnwys comediwyr, Siya Seya sy'n siarad mewn isiXhosa ond sy'n ddealladwy i siaradwyr tafodiaethoedd eraill.[14]
- Gwasanaeth Newyddion Newsroom Afrika sydd yn Nguni - gwasanaeth newyddion yn Ne Affrica a lansiwyd yn 2023 ar sianel deledu 163.[15]
Llyfryddiaeth
golygu- Doke, Clement Martyn (1954). The Southern Bantu Languages. Handbook of African Languages. Oxford: Oxford University Press.
- Wright, J. (1987). "Politics, ideology, and the invention of the 'nguni'". In Tom Lodge (gol.). Resistance and ideology in settler societies. tt. 96–118.
Oriel
golygu-
Ndebele - dwysedd siaradwyr yn Ne Affrica (2011)
-
Swazi (gelwir hefyd yn Swazi) - dwysedd siaradwyr yn Ne Affrica (2011)
-
isiXhosa - dwysedd siaradwyr (2011)
-
isiZulu - dwysedd siaradwyr yn Ne Affrica (2011)
-
Ndebele Zimbabwe - canolir siaradwyr Ndebele yn Matabeleland yng ngorllewin Zimbabwe
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Zulu / Xhosa". The World is Our Thing. 2020.
- ↑ Wright 1987.
- ↑ Eric P. Louw (1992). "Language and National Unity in a Post-Apartheid South Africa". Critical Arts. https://d.lib.msu.edu/caj/170.
- ↑ Neville Alexander (1989). "Language Policy and National Unity in South Africa/Azania".
- ↑ Doke 1954.
- ↑ Ownby 1985.
- ↑ Jordan 1942.
- ↑ "Isizwe SamaHlubi: Submission to the Commission on Traditional Leadership Disputes and Claims: Draft 1" (PDF). July 2004. Cyrchwyd 28 July 2011.
- ↑ Donnelly 2009, t. 1-61.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 10.3 Cyfrifiad De Affrica 2011, swm y canlyniadau ar gyfer y naw talaith, adalwyd ymlaen 4 Awst 2017.
- ↑ Northern Ndebeleyn salanguages.com (Saesneg), cyrchwyd 5 Awst 2017.
- ↑ Sónja Frota, Gorka Elordieta, Pilar Prieto (Hrsg.): Prosodic Categories: Production, Perception and Comprehension. Springer Science and Business Media, Berlin/ Heidelberg 2011, ISBN 978-94-007-0137-3, S. 251. Auszüge bei books.google.de
- ↑ www.northerndebele.blogspot.com[dolen farw]
- ↑ "Siya Seya, Laugh In Your Language Season 1, Nguni". Comedy Central Africa. 2020.
- ↑ "Excitement ahead of Nguni language news premiere". Newsroom Afrika. 2023.
Dolenni allanol
golygu- Nguni: Simphiwe Shembe Comedi stand-yp yng nghyfres Laugh In Your Language gan Comedy Central Africa, 24 May 2019