Xiye Bastida
Mae Xiye Bastida (ganwyd 18 Ebrill 2002) yn ymgyrchydd hinsawdd Mecsicanaidd-Chileaidd ac yn aelod o genedl frodorol Mecsico Otomi - Toltec. Hi yw un o brif drefnwyr Fridays for Future ar gyfer Dinas Efrog Newydd ac mae wedi bod yn llais blaenllaw pobl frodorol a mewnfudwyr yn yr UDA mewn ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd.[1] Mae hi ar bwyllgor gweinyddu Mudiad Hinsawdd y Bobl (People's Climate Movement) ac yn gyn-aelod o Sunrise Movement ac Extinction Rebellion. Hi yw cyd-sylfaenydd Re-Earth Initiative, sefydliad rhyngwladol dielw sy'n gynhwysol ac yn groestoriadol “yn union fel y dylai'r mudiad hinsawdd fod.”
Xiye Bastida | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ebrill 2002 Bwrdeistref Atlacomulco |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, ymgyrchydd hinsawdd |
Mam | Geraldine Patrick Encina |
Bywyd ac addysg gynnar
golyguGaned Bastida yn Atlacomulco, Mecsico i'w rieni Mindahi a Geraldine, sydd hefyd yn amgylcheddwyr,[2] ac fe'i magwyd yn nhref San Pedro Tultepec yn Lerma.[3][4] Mae hi o dras Otomi - Toltec (sef Mecsicanaidd brodorol) ac Astec ar ochr ei thad a Chile Ewropeaidd o dras Geltaidd ei mam.[5][6] Ar hyn o bryd mae gan Bastida ddinasyddiaeth deuol: Mecsicanaidd a Chile.[7]
Symudodd Bastida a'i theulu i Ddinas Efrog Newydd ar ôl i lifogydd eithafol daro eu tref enedigol, San Pedro Tultepec yn 2015 yn dilyn tair blynedd o sychder.[8]
Mynychodd Bastida Ysgol Beacon [9] a dechreuodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Pennsylvania yn 2020.[10]
Gweithredu
golyguDechreuodd Bastida ymgyrchu fel aelod o Glwb amgylcheddol. Protestiodd y clwb yn Albany a Neuadd y Ddinas Efrog Newydd gan lobïo dros y CLCPA (neu the Climate and Community Leaders Protection Act / Deddf Diogelu Arweinwyr Hinsawdd a Chymuned) a'r Mesur Adeiladau Brwnt.[11] Dyna pryd y clywodd am Greta Thunberg a'i streiciau yn erbyn newid hinsawdd.
Rhoddodd Bastida araith ar Cosmoleg Frodorol yn 9fed Fforwm Trefol y Byd y Cenhedloedd Unedig, a dyfarnwyd iddo wobr “Ysbryd y Cenhedloedd Unedig” yn 2018.[12]
Arweiniodd Bastida ei hysgol uwchradd, The Beacon School,[13] yn y streic hinsawdd fawr gyntaf yn Ninas Efrog Newydd ar 15 Mawrth 2019.[14] Cyfarchodd hi ac Alexandria Villaseñor Thunberg yn swyddogol ar ôl iddi gyrraedd o Ewrop mewn cwch ym mis Medi 2019 i fynd i Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.[15] Llysenwyd Xiye yn "Greta Thunberg America" ond mae wedi dweud bod "galw gweithredwyr ifanc eraill yn 'Greta Thunberg' eu gwlad yn difrio profiad personol Greta a'i hymgyrchu unigol hi".[16][17]
Rhyddhaodd Teen Vogue raglen ddogfen fer We Rise ar Bastida yn Rhagfyr 2019.[18] Cydweithiodd Bastida hefyd â 'Ffilm 2040' i greu fideo fer o'r enw Imagine the Future yn archwilio sut y gallai tirweddau a dinasluniau edrych yn y dyfodol.
Cyfrannodd Bastida hefyd at All We Can Save, blodeugerdd o ferched yn ysgrifennu am newid hinsawdd.[19] Yn ddiweddar, siaradodd yn yr Uwchgynhadledd Arweinyddiaeth ar Hinsawdd a gynhaliwyd gan Weinyddiaeth Biden, gan draddodi araith yn annog arweinwyr y byd i gymryd mwy o ran mewn ymgytrchu yn erbyn newid hinsawdd.[20]
Ffilmyddiaeth
golygu- We Rise (2019)
- imagine the future (2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Burton, Nylah (11 Hydref 2019). "Meet the young activists of color who are leading the charge against climate disaster". Vox. https://www.vox.com/identities/2019/10/11/20904791/young-climate-activists-of-color. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Vincent, Maddie (17 Awst 2019). "Youth activists stress collaboration, urgency to respond to climate change". Aspen Times. https://www.aspentimes.com/news/youth-activists-stress-collaboration-urgency-to-respond-to-climate-change/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ "How an Indigenous Teen Climate Activist Plans to Change the World". Teen Vogue. 19 December 2019. https://www.teenvogue.com/video/watch/how-an-indigenous-teen-climate-activist-plans-to-change-the-world. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Bagley, Katherine (7 Tachwedd 2019). "From a Young Climate Movement Leader, a Determined Call for Action". Yale Environment 365. https://e360.yale.edu/features/from-a-young-climate-movement-leader-a-determined-call-for-action. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Perry, Aaron William (27 Awst 2019). "Episode 46 – Xiye Bastida, Global Youth Leader: "Strike with Us!"". Yale Environment 360. https://yonearth.org/podcast-archive/episode-46-xiye-bastida-global-youth-leader-strike-with-us/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Tierra, Desafío (28 Awst 2019). "Xiye Bastida, la adolescente de madre chilena que recibió a Greta Thunberg en su llegada a Nueva York" (yn es). CNN Chile. https://www.cnnchile.com/cop25/xiye-bastida-activista-madre-chilena-greta-thunberg_20190828/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Labayen, Evalena (10 December 2019). "Environmental activist Xiye Bastida says "OK, Doomers"". Interview Magazine. https://www.interviewmagazine.com/culture/environmental-activist-xiye-bastida-says-ok-doomers. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Lucente Sterling, Anna (25 Medi 2019). "This Teen Climate Activist Is Fighting To Ensure Indigenous And Marginalized Voices Are Being Heard". HuffPost. https://www.huffpost.com/entry/xiye-bastida-climate-activism_n_5d8a7ec9e4b0c6d0cef3023e. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ ""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today". Democracy Now. 20 Medi 2019. https://www.democracynow.org/2019/9/20/global_climate_strike_new_york_minnesota. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Meisenzahl, Elizabeth (28 Mawrth 2020). "Hailing from Tennessee to Indonesia, meet five members of the newly admitted class of 2024". Daily Pennsylvanian. https://www.thedp.com/article/2020/03/penn-admitted-students-class-of-2024. Adalwyd 22 Medi 2020.
- ↑ Labayen, Evalena (10 December 2019). "Environmental activist Xiye Bastida says "OK, Doomers"". Interview Magazine. https://www.interviewmagazine.com/culture/environmental-activist-xiye-bastida-says-ok-doomers. Adalwyd 3 Chwefror 2020.Labayen, Evalena (10 December 2019).
- ↑ "Xiye Bastida". Omega. Cyrchwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ ""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today". Democracy Now. 20 Medi 2019. https://www.democracynow.org/2019/9/20/global_climate_strike_new_york_minnesota. Adalwyd 3 Chwefror 2020.""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today".
- ↑ Kamenetz, Anya (19 Ionawr 2020). "'You Need To Act Now': Meet 4 Girls Working To Save The Warming World". NPR. https://www.npr.org/2020/01/19/797298179/you-need-to-act-now-meet-4-girls-working-to-save-the-warming-world. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ Cimons, Marlene (19 Medi 2020). "Meet Xiye Bastida, America's Greta Thunberg". PBS. https://www.pbs.org/wnet/peril-and-promise/2019/09/meet-xiye-bastida-americas-greta-thunberg/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ "Meet Xiye Bastida, America's Greta Thunberg". Peril & Promise (yn Saesneg). 2019-09-19. Cyrchwyd 2020-05-18.
- ↑ "My name is not Greta Thunberg: Why diverse voices matter in the climate movement". theelders.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-16.
- ↑ Kirkland, Allegra (19 December 2019). "Xiye Bastida Opens Up About the Personal Costs of Activism In Documentary 'We Rise'". Teen Vogue. https://www.teenvogue.com/story/xiye-bastida-climate-activist-documentary. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
- ↑ "Contributors". All We Can Save (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-07. Cyrchwyd 2020-12-11.
- ↑ "Mexican environmentalist, 19, reprimands world leaders for climate inaction". Mexico News Daily (yn Saesneg). 2021-04-23. Cyrchwyd 2021-04-24.