Papur newydd cyntaf y Wladfa ym Mhatagonia oedd Y Brut (1868). Fe'i paratowyd yn fisol ac roedd gan rifyn 25 o dudalennau mewn llawysgrif. Byddai'r gwladfawyr yn talu amdano yn flynyddol trwy roi deuddeg tudalen o bapur ysgrifennu tuag at ei gynhyrchu ac roedd disgwyl i ddarllenwyr ei basio ymlaen i gymydog ar ôl deuddydd. Y golygydd oedd Richard Jones Berwyn, gŵr o Lyndyfrdwy a deithiodd i Batagonia ar y Mimosa ac a ddaeth yn amlwg ym mywyd cyhoeddus y Wladfa.

Ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r Brut yn Ionawr 1868 ac, yn ôl Y Drafod ym 1893, roedd yn cynnwys yr eitemau canlynol:

  • Anerchiad y Golygydd.
  • At y Gwladfawyr, gan Cadivor.
  • Llythyr oddi wrth M.D.Jones.
  • Sylwadau Gwladfaol Newydd, gan D. Williams.
  • Cyfarchiad y Prwyad. L. Jones.
  • Hanes pwyllgorau.
  • Newyddion.
  • Dal Morloi.

Llyfryddiaeth

golygu