Lewis Jones (Patagonia)

arloeswr a llenor

Roedd Lewis Jones (30 Ionawr 1836 - 24 Tachwedd 1904) yn un o brif sylfaenwyr Y Wladfa ym Mhatagonia.

Lewis Jones
Lewis Jones.jpg
Ffotograff allan o Historia Argentina Contemporánea 1862-1930; dim dyddiad
Ganwyd 30 Ionawr 1836 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Tachwedd 1904 Edit this on Wikidata (68 oed)
Trelew Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Ariannin, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Plant Eluned Morgan Edit this on Wikidata

Ganed Lewis Jones yng Nghaernarfon a bu'n gweithio fel argraffydd yng Nghaergybi lle bu'n cyd-olygu Y Punch Cymraeg (1858-60). Yn ddiweddarach symudodd i Lerpwl. Daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol, ac yn 1862 aeth ef a'r Capten Love Jones-Parry i Batagonia i weld a oedd yr ardal yn addas ar gyfer sefydlwyr Cymreig. Dychwelodd gyda adroddiad ffarfriol dros ben - rhy ffafriol fel y gwelwyd yn nes ymlaen.

Aeth Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts i Batagonia i baratoi ar gyfer y sefydlwyr, ac roedd yno i'w croesawu pan laniodd y Mimosa. Bu cweryl pan gwynodd rhai o'r fintai nad oedd y wlad mor addas ag roedd Lewis Jones wedi ei adrodd, a symudodd yntau i Buenos Aires i weithio fel argraffydd am gyfnod. Pan oedd rhai o'r Cymry yn bwriadu gadael Patagonia yn 1867 dychwelodd i'w perswadio i aros. Dechreuodd wasg argraffu yn y Wladfa, a chyhoeddodd ddau bapur newydd yno, Ein Breiniad ac Y Drafod. Bu yn rhaglaw dros lywodraeth Ariannin am gyfnod, ond bu hefyd yng ngharchar am amddiffyn hawliau'r Cymry.

Rhoddodd Lewis Jones ei enw i un o sefydliadau cyntaf y Cymry ym Mhatagonia, sef Trelew. Daeth ei ferch, Eluned Morgan, yn un o lenorion amlycaf y Wladfa.

Y personGolygu

Lluniau eraillGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)

Cysylltiad allanolGolygu