Y Corfflu Cadwraeth Sifil
Rhaglen gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau i liniaru diweithdra yn ystod y Dirwasgiad Mawr oedd y Corfflu Cadwraeth Sifil (Saesneg: Civilian Conservation Corps; CCC). Sefydlwyd ym Mawrth 1933, yn ystod "can niwrnod cyntaf" arlywyddiaeth Franklin D. Roosevelt, fel un o brif asiantaethau'r Fargen Newydd. Pwrpas y CCC oedd i ddarparu swyddi cadwraeth i ddynion dibriod diwaith, oed 18 i 25; yn ddiweddarach estynnwyd y rhaglen i ddynion oed 17 i 28. Ymhlith prosiectau'r CCC oedd plannu coed, codi rhwystrau i atal llifogydd, diffodd tanau gwyllt, a chynnal a chadw ffyrdd a llwybrau yn y coedwigoedd. Ar ei anterth, cyflogwyd 500,000 o ddynion gan y CCC, a chyflogwyd 3 miliwn i gyd hyd at ei ddadsefydlu ym 1942.[1]
Poster i hyrwyddo'r Corfflu Cadwraeth Sifil, a gynhyrchwyd gan y Prosiect Celf Ffederal yn Chicago (1935). | |
Enghraifft o'r canlynol | independent agency of the United States government, endid a fu |
---|---|
Daeth i ben | 2 Gorffennaf 1942 |
Rhan o | Y Fargen Newydd |
Dechrau/Sefydlu | 28 Mehefin 1937 |
Rhagflaenwyd gan | Emergency Conservation Work |
Lleoliad yr archif | National Archives and Records Administration, National Archives at College Park, University of Maryland Libraries |
Isgwmni/au | Civilian Conservation Corps South Dakota |
Rhiant sefydliad | Federal Security Agency |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Civilian Conservation Corps. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2022.