Y Ddeddf Unioni Amaethyddol
Deddf ffederal a basiwyd gan Gyngres yr Unol Daleithiau ym Mai 1933 oedd y Ddeddf Unioni Amaethyddol (Saesneg: Agricultural Adjustment Act; AAA) a oedd yn un o brif raglenni'r Fargen Newydd yn ystod arlywyddiaeth Franklin D. Roosevelt. Nod y ddeddf oedd i adfer y diwydiant amaeth yn ystod y Dirwasgiad Mawr drwy gwtogi ar orgynhyrchu gan ffermydd, lleihau'r gwarged allforion, a chwyddo prisoedd amaethyddol.
Ffermwyr yn eistedd y tu allan i un o swyddfeydd y Weinyddiaeth Unioni Amaethyddol yn Alabama (1941). | |
Enghraifft o'r canlynol | federal law, Act of Congress in the United States, United States federal agency |
---|---|
Daeth i ben | 1942 |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhagflaenydd y ddeddf hon oedd y Ddeddf Farchnata Amaethyddol, a sefydlai Bwrdd Ffederal y Ffermydd yn ystod arlywyddiaeth Herbert Hoover ym 1929. Yn ôl telerau'r Ddeddf Unioni Amaethyddol, byddai'r llywodraeth ffederal yn prynu da byw ac yn eu lladd, ac yn talu ffermwyr i beidio â phlannu cnydau ar ran o'u tir. Sefydlwyd asiantaeth newydd yn yr Adran Amaethyddol o'r enw y Weinyddiaeth Unioni Amaethyddol gan y ddeddf i oruchwylio'r cymorthdaliadau. Cynhyrchwyd yr arian ar gyfer y cymorthdaliadau gan dreth ar gwmnïau a oedd yn prosesu cynnyrch o ffermydd. Rhoddwyd cynllun ar waith gan y Weinyddiaeth Unioni Amaethyddol i geisio adfer prisoedd i'r un lefel sefydlog o allu i brynu â'r cyfnod 1909–14. Sefydlwyd hefyd y Gorfforaeth Gredyd Cynwyddau gan y ddeddf er mwyn darparu benthyciadau i gynnal prisoedd ac i brynu a storio cynwyddau amaethyddol penodol.[1]
Erbyn 1936, talwyd $1.5 biliwn i ffermwyr gan y Weinyddiaeth Unioni Amaethyddol, a chynyddodd incwm arian ffermwyr yn yr Unol Daleithiau ddwywaith rhwng 1932 a 1936. Er hynny, prif achos y cynnydd mewn prisoedd cynwyddau oedd sychderau yn y cyfnod 1933–36. Dyfarnwyd y Ddeddf Unioni Amaethyddol yn anghyfansoddiadol gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau ym 1936.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Agricultural Adjustment Administration. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2020.