Treth yw tâl a orfodir ar unigolion neu bobl neu fusnesau gan lywodraeth, brenin, neu arglwydd neu ryw awdurdod arall, yn aml fel cyfran o incwm neu gynnyrch economaidd. Gelwir treth eglwys yn ddegwm.

Ceir ymgyrchoedd i gael treth gwerth tir yn hytrach na threth incwm yn yr Alban a Lloegr er mwyn trethi'r hyn a ddefnyddir yn hytrach na llafur.

Ymgyrch i gael ffurflenni Treth y Cyngor yn Gymraeg

golygu

Dyma un o ymgyrchoedd cyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei hymladd: ymgyrch i gael ffurflen treth y Cyngor yn Gymraeg oedd hon, yn 1963. Brwydr gan Gell Bangor oedd hon, hefyd, 'mewn cyfnod pan nad oedd y Gymdeithas [yn genedlaethol] yn weithredol', chwedl Emyr Llywelyn. Yn ôl Geraint Jones yn ei gyfrol Brwydr yr Iaith, 1962-67:

Owain Owain oedd y Dafydd a Phwyllgor Cyllid Dinas Bangor oedd y Goliath.
Diolch i Owain a'i ganfasio trylwyr ymysg y cynghorwyr', pasiwyd i gael ffurflenni Cymraeg o 1 Ebrill 1966 ymlaen.[1]

Dyma, yn fwy na thebyg, fuddugoliaeth gynta'r Gymdeithas. Aeth Cell Bangor ati wedyn i fyny ffurflen treth incwm Cymraeg, a bu'n llwyddiannus yn hynny hefyd.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am treth
yn Wiciadur.
  1. Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Y Lolfa, 2025), tt.108