Yn Wica, mae'r Ddefod Fawr naill ai'n ddefod sy'n cynnwys cyfathrach rywiol (rhwng yr Archoffeiriaid a'r Archoffeiriades fel arfer, neu bobl sydd mewn perthynas yn barod), neu'n ddefod symbolaidd sy'n cynrychioli cyfathrach rywiol. Yn y fersiwn symbolaidd, mae'r Arch Offeiriad yn gostwng ei Athamé, neu gyllell ddefodol, (y symbol gwrywaidd sy'n cynrychioli'r pidyn) i mewn i'r caregl (y symbol benywaidd sy'n cynrychioli'r bru), sy'n cynnwys gwin, sudd, neu ddŵr, a ddalir gan yr Arch Offeiriades. Mae'r Ddefod Fawr yn symboleiddio creadigaeth yng nghyfuniad y Dduwies Wyryf gyda'r Duw fel Carwr, ac felly y mae'n enghraifft o ddefod ffrwythloni.

Mae amryw o adegau yn y Calendr Wicaidd sy'n galw am berfformio'r Ddefod Fawr, er enghraifft, ar achlysur Gŵyl Galan Mai (Beltane) ar 1 Mai yn hemisffer y gogledd, a 1 Tachwedd yn hemisffer y de.[1][2] Fel rheol, perfformir hi gan yr Arch Offeiriad a'r Arch Offeiriades, ond gall aelodau eraill berfformio'r Ddefod hefyd, gan berfformio'r cusan pumplyg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Morrison, Dorothy (2001). The Craft: A Witch's Book of Shadows. Llewellyn Worldwide
  2. Hume, Lynne (1997). Witchcraft and Paganism in Australia. Melbourne: Melbourne University Press