Caregl (cwpan)
Mae caregl (o'r Lladin calix, cwpan, wedi benthyg o'r Roeg kalyx) yn obled neu gwpan gyda throed llestr a arofunnir dal diod. Mewn termau crefyddol cyffredinol, arofunnir ar gyfer yfed yn ystod seremoni.
Defnydd crefyddol
golyguCristnogaeth
golyguDefnyddir caregl mewn llawer o draddodiadau Cristnogol i ddal gwin cymun yn ystod y Cymun Bendigaid (Ewcarist). Fel arfer, gwneir careglau allan o fetelau gwerthfawr, weithiau wedi'u haddurno gydag enamliad a gemfeini. Mae gobled aur yn cynrychioli'r teulu a thraddodiad.
Hefyd, y Caregl Sanctaidd yw'r llestr a ddefnyddiwyd gan Iesu yn Swper yr Arglwydd. Gelwir y Caregl Sanctaidd yn "Greal Sanctaidd" weithiau.
Wica
golygu- Prif: Offer hudol yn Wica
Yn Wica a thraddodiadau Neo-baganaidd eraill, defnyddir caregl fel arfer gyda'r Athamé (cyllell seremonïol gyda charn ddu) yn y Ddefod Fawr; mae'r caregl yn cynrychioli'r fenyw, a'r athamé y dyn. Wrth gyfuno'r ddau, y mae'n weithred o genhedliad, fel symbol o greadigrwydd yr hollfyd. Yn ystod y ddefod, mae'r caregl yn cynnwys gwin neu ddŵr.