Agor y brif ddewislen
Y Fedwen Fai neu'r Fedwen Haf
Plant yn Ffair Glamai y Bala, 1952
Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania

Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir yn Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf; Gla'Mai neu Glamai ar lafar) a ddethlir ar 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel y mae'r enw Bealtaine yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.

Arferion ac arwyddocâdGolygu

Yn y testun Gwyddeleg Canol Sanas Cormac, dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er mwyn eu diogelu rhag clefydau.[1]

Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]

Mae cyfeiriadau at ddigwyddiadau tynghedfennol - Ffawd - ar Nos Calan Mai yn gyffredin mewn chwedlau Cymraeg, e.e. yn Hanes Taliesin. Yn y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.

Traddodiadau CymreigGolygu

  • Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
  • Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
  • Arferid canu carolau Mai ('carolau haf' neu 'garolau dan y pared') sef caneuon eithaf erotig.[4]
  • Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.[4]

Neo-baganiaethGolygu

Mae'n un o wyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.

GwleidyddiaethGolygu

 
Stamp Rwsiaidd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889. Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwyn Thomas. Duwiau'r Celtiaid. Llafar Gwlad 24.
  2. Duwiau'r Celtiaid
  3. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
  4. 4.0 4.1 4.2 Welsh Folk Customs