Ferdinand II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand II (9 Gorffennaf 157815 Chwefror 1637) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig (1619–37), Brenin Bohemia (1617–19, 1620–27), Brenin Hwngari (1618–25), ac Archddug Awstria (1619–37). Ferdinand oedd prif ladmerydd y Gwrth-Ddiwygiad ac absoliwtiaeth wleidyddol yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48).

Ferdinand II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd9 Gorffennaf 1578 Edit this on Wikidata
Graz Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1637 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ingolstadt Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
PriodMaria Anna o Bafaria, Eleonora Gonzaga Edit this on Wikidata
PlantFerdinand III, Archduke Johann Karl of Austria, Christine von Habsburg, Karl von Habsburg Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata

Ganed Ferdinand yn Graz, Dugiaeth Styria, un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn fab hynaf i Siarl II, Archddug Awstria Fewnol (tiroedd Styria, Carinthia, a Carniola), a'i wraig Maria, Tywysoges Bafaria. Bu farw'r Archddug Siarl II ym 1590, a derbyniodd Ferdinand ei addysg oddi ar yr Iesuwyr ym Mhrifysgol Ingolstadt o 1590 i 1595 i'w baratoi yn arweinydd Catholig pybyr cyn iddo ddechrau llywodraethu Awstria Fewnol ym 1596. Aeth ar bererindod i Loreto a Rhufain, a chychwynnodd ar ymgyrch o erlid Protestaniaid yn ei diriogaethau.[1] Priododd Ferdinand â Maria Anna, Tywysoges Bafaria, ym 1600 a chawsant saith plentyn cyn iddi farw ym 1616, yn 41 oed. Bu farw'r ferch a'r mab cyntaf yn fabanod, a'r trydydd plentyn, Ioan Siarl, yn 14 oed. Bu'r plant eraill – Ferdinand, Maria Anna, Cecilia Renata, a Leopold Wilhelm – yn cyrraedd llawn oed.

Yn y 1600au bu ffrae rhwng dau o gefndyr Ferdinand, Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a'i frawd Matthias, ond ni ymgynghreiriodd Ferdinand yn bendant â'r naill ochr na'r llall.[1] Bu farw Rudolf ym 1612, a fe'i olynwyd gan Matthias, a fethodd i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid yn y cynulliad ymerodrol. Oherwydd nad oedd yr un mab gan Matthias, llwyddodd Ferdinand i sicrhau olyniaeth yr orsedd ymerodrol gyda chefnogaeth Hapsbwrgiaid Sbaen. Addawodd Ferdinand, mewn cudd-gytundeb ym 1617, i ildio Alsás a thiroedd gwrogaethol yn yr Eidal i'r Sbaenwyr os oeddent yn gefnogi ei hawl i'r orsedd.[1] Ym 1617 etholwyd Ferdinand yn Frenin Bohemia, ac ym 1618 fe'i etholwyd hefyd yn Frenin Hwngari. Ym 1619 trodd y Protestaniaid yng Nghynulliad Bohemia yn ei erbyn a fe'i diorseddwyd. Etholwyd yr Etholydd Palatin Ffredrig V yn Frenin Bohemia, gan ddechrau'r gwrthryfel a sbardunodd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn Hydref 1619 olynodd Ferdinand ei gefnder Albrecht VII yn Archddug Awstria.

Esgynnodd Ferdinand i orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn sgil marwolaeth yr Ymerawdwr Matthias ym Mawrth 1619. Fe'i etholwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ar 28 Awst, ac oherwydd y rhyfel bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gefnogaeth Sbaen, Gwlad Pwyl, a sawl tywysog Almaenig. Ar 8 Tachwedd 1620, gorchfygwyd byddin y gwrthryfelwyr gan luoedd y Gynghrair Gatholig, gyda chymorth Sbaen, ym Mrwydr y Mynydd Gwyn ger Prâg. Aeth Ferdinand ati i orfodi Catholigiaeth ar diroedd Coron Bohemia ac i gipio ystadau'r pendefigion a fuont yn wrthryfelwyr, yn ogystal ag atgyfnerthu ei rym dros yr Ymerodraeth Lân Rufeinig drwy drosglwyddo'r Etholyddiaeth Balatin i Maximilian I, Etholydd Bafaria.[1] Ym 1622, priododd Ferdinand â'i ail wraig Eleonora Gonzaga, Tywysoges Mantua. Ni chawsant yr un plentyn. Cafwyd sawl buddugoliaeth gan luoedd y Catholigion dan arweiniad y Pencadfridog Albrecht von Wallenstein. Yn ôl y Gyhoeddeb Adferiad (1629), gorfododd Ferdinand i'r Protestaniaid ddychwelyd tiroedd a gipiwyd oddi ar yr Eglwys Gatholig ers 1552. Gwrthwynebwyd hyn yn chwyrn gan dywysogion Almaenig am iddi amlygu tueddiadau absoliwtaidd yr Ymerawdwr Ferdinand. Cytunwyd ar gyfaddawd rhwng Ferdinand â'r tywysogion Protestannaidd yn Heddwch Prâg (1635). Bu farw yn Fienna yn 58 oed, 11 mlynedd cyn diwedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab Ferdinand III.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Ferdinand II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ebrill 2020.

Darllen pellach

golygu
  • Robert Bireley, Ferdinand II, Counter-Reformation Emperor, 1578–1637 (Efrog Newydd: Cambridge University Press, 2014).
Rhagflaenydd:
Matthias
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
16191637
Olynydd:
Ferdinand III