Y Dreflan - Ei Phobl a'i Phethau

(Ailgyfeiriad o Y Dreflan)

Nofel yn Gymraeg gan Daniel Owen yw Y Dreflan: Ei Phobl a'i Phethau, a gyhoeddwyd yn 1881.

Y Dreflan - Ei Phobl a'i Phethau
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Owen
CyhoeddwrHughes a'i Fab
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreFfuglen

Disgrifiad golygu

Y Dreflan oedd nofel wreiddiol gyntaf Daniel Owen; fe'i cyhoeddwyd fesul pennod yn Y Drysorfa yn ystod 1879-80. Cyflwynir cymeriadau'r Dreflan gyda dychan a hiwmor, ynghyd â sylwadau ar y natur ddynol a oedd mor nodweddiadol o'r awdur.

Argraffiadau golygu

Cafwyd sawl argraffiad o'r nofel hon gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, o'i gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1881 hyd hanner olaf yr 20g.

Cyhoeddwyd golygiad newydd gan Robert Rhys o Y Dreflan - Ei Phobl a'i Phethau yn 2014 gan Dalen Newydd. Man cyhoeddi: Bangor, Cymru.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.