Y Dywysoges Margaret
Roedd y Dywysoges Margaret (21 Awst 1930 – 9 Chwefror 2002), Iarlles Snowdon, yn aelod o deulu brenhinol Lloegr ac yn chwaer iau i'r Frenhines Elisabeth II. Roedd Margaret yn adnabyddus am ei ffordd dadleuol a moethus o fyw ac roedd yn ffigwr poblogaidd yn Lloegr yn ystod y 1950au a'r '60au. Roedd hi hefyd yn gerddor medrus ac yn noddwr y celfyddydau.[1]
Margaret | |||||
---|---|---|---|---|---|
Iarlles Snowdon | |||||
![]() Margaret yn 1965 | |||||
Ganwyd | Y Dywysoges Margaret o Efrog 30 Awst 1930 Castell Glamis, Angus, yr Alban | ||||
Bu farw | 9 Chwefror 2002 Ysbyty'r Brenin Edward VII, Llundain, Lloegr | (71 oed)||||
Priod | Antony Armstrong-Jones, Iarll 1af Snowdon (pr. 1960; ysg. 1978) | ||||
Plant |
| ||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig | ||||
Mam | Elizabeth Bowes-Lyon |
Ganwyd hi yng Nghastell Glamis yn yr Alban yn 1930. Roedd hi'n blentyn i'r Tywysog Albert, Dug Efrog (sef y Brenin George VI o 1936 ymlaen), ac Elizabeth Bowes-Lyon. Ym 1960 priododd hi Antony Armstrong-Jones, a grewyd yn Iarll Snowdon pan briodasant. Cawsant ddau o blant: David, a aned yn 1961, a Sarah a aned yn 1964. Gwahanodd hi a'i gŵr yn 1976 ac ysgaru yn 1978.[2][3][4][5][6][7]
Bu farw Margaret yn Ysbyty'r Brenin Edward VII yn Marylebone, Llundain, yn 71 oed, ar ôl dioddef sawl strôc.
Mae Ffordd y Dywysoges Margaret ym Mhort Talbot wedi ei henwi ar ei hôl.
Archifau
golyguMae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw archifau sy'n ymwneud â'r Dywysoges Margaret.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwobrau a dderbyniwyd: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Rose Armstrong-Jones". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Princess Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Rose Windsor, Princess of the United Kingdom". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020. "Princess Margaret of Great Britain and N-Ireland". Genealogics. "Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Rose Armstrong-Jones". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Princess Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Rose Windsor, Princess of the United Kingdom". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020. "Princess Margaret of Great Britain and N-Ireland". Genealogics. "Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man claddu: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Tad: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Priod: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Mam: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ "y Dywysoges Margaret - Archifau a Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru". archifau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2023-09-14.