Antony Armstrong-Jones
Roedd Antony Charles Robert Armstrong-Jones, Iarll 1af Snowdon, GCVO, RDI (7 Mawrth 1930 - 13 Ionawr 2017), yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau fu'n briod a'r Dywysoges Margaret, merch ieuengaf Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig a chwaer y Frenhines Elizabeth II.
Antony Armstrong-Jones | |
---|---|
Ganwyd | Antony Charles Robert Armstrong-Jones 7 Mawrth 1930 Belgravia |
Bu farw | 13 Ionawr 2017 Kensington |
Man preswyl | Palas Kensington, Kensington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, cynllunydd, ffotograffydd ffasiwn, dyngarwr, pendefig |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Ronald Armstrong-Jones |
Mam | Anne Parsons |
Priod | y Dywysoges Margaret, Lucy Davies |
Partner | Marjorie Wallace, Melanie Cable-Alexander |
Plant | David Armstrong-Jones, Sarah Chatto, Frances Armstrong-Jones, Jasper Cable-Alexander |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Lucie Award, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant |
Chwaraeon |
Cefndir
golyguRoedd Armstrong-Jones yn unig fab y bargyfreithiwr Ronald Armstrong-Jones (1899–1966) ac Anne Messel (Iarlles Rosse), ei wraig.[1]
Roedd teulu tadol Armstrong-Jones yn hanu o'r Bontnewydd, Sir Gaernarfon; ei daid oedd Syr Robert Armstrong-Jones, meddyg y teulu brenhinol ac roedd Margaret, ei nain, yn ferch i'r addysgwr a'r ysgolhaig Cymreig Syr Owen Roberts.[2]
Addysg
golyguDerbyniodd Armstrong-Jones ei addysg yn ysgol Sandroyd[3] , Coleg Eton a Choleg yr Iesu Caergrawnt. Bu'n astudio pensaernïaeth yng Nghaergrawnt ond methodd ei arholiadau terfynol. Ym 1950 bu'n gocs ar y tîm buddugol yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt.
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r brifysgol dechreuodd Armstrong-Jones weithio fel ffotograffydd ffasiwn, y theatr ac enwogion. Ym 1957 fe'i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol ar gyfer taith frenhinol i Ganada gan Elizabeth II a Dug Caeredin.
Bu Armstrong-Jones yn gyd-gyfrifol (gyda Frank Newby a Cedric Price), am gynllunio'r cawell adar yn Sw Llundain; bu hefyd yn gyfrifol am gynllunio arwisgiad ei nai Charles yn Dywysog Cymru ym 1969.
Bywyd Personol
golyguBu Armstrong-Jones yn briod ddwywaith.[4]
Ei wraig gyntaf oedd y Dywysoges Margaret. Priododd y ddau yn Abaty Westminster ar 6 Mai, 1960 a chawsant ddau blentyn: David Armstrong-Jones, 2il Iarll Snowdon, a anwyd 3 Tachwedd 1961, a'r Ledi Sarah Armstrong-Jones, ganwyd 1 Mai 1964. Ychydig wedi'r briodas codwyd Armstrong-Jones i'r bendefigaeth gyda'r teitlau Iarll Snowdon ac Is-iarll Linley. O herwydd cysylltiadau'r iarll a'r Bontnewydd cyfeirid at y cwpl yn y Gymraeg gyda'r llysenwau ysmala Toni a Magi Bont weithiau[5].
Bu'r briodas yn un stormus gyda'r ddau bartner yn ymarfer anffyddlondeb rhywiol yn llygad y cyhoedd. Daeth y briodas i ben trwy ysgariad ym 1978 pan ddechreuodd y dywysoges berthynas gyda'r cynlluniwr gerddi Cymreig Roddy Llywellyn.
Wedi ysgaru'r dywysoges Margaret, priododd Armstrong-Jones Lucy Mary Lindsay-Hogg (née Davies), cyn-wraig y cyfarwyddwr ffilm Michael Lindsay-Hogg, ar 15 Rhagfyr 1978. Ganwyd un ferch iddynt, sef y Ledi Frances Armstrong-Jones, ar 17 Gorffennaf 1979. Daeth y briodas i ben yn 2000 wedi'r cyhoeddiad bod Armstrong-Jones wedi cael mab, Jasper William Oliver Cable-Alexander (ganwyd 30 Ebrill 1998), gyda Melanie Cable-Alexander, golygydd y cylchgrawn Country Life Magazine.
Marwolaeth
golyguBu farw'r Iarll yn ei gartref ar 13 Ionawr 2017 yn 86 mlwydd oed.[6]
Llinach
golyguCyhoeddiadau
golygu- London. London: Weidenfeld & Nicolson, 1958. ( ISBN 0-297-16763-4.)
- Assignments. London: Weidenfeld & Nicolson, 1972. ISBN 0-297-99582-0.
- A View of Venice. [Ivrea]: Olivetti, c1972.
- Personal View. London: Weidenfeld & Nicolson, 1979. ISBN 0-297-77715-7.
- Snowdon Tasmania Essay. Hobart: Ronald Banks, 1981. ISBN 0-85828-007-8. Testyn gan Trevor Wilson.
- Sittings, 1979–1983. London: Weidenfeld & Nicolson, 1983. ISBN 0-297-78314-9.
- Israel: A First View. London: Weidenfeld & Nicolson, 1986. ISBN 0-297-78860-4.
- Stills 1984–1987. London: Weidenfeld & Nicolson, 1987. ISBN 0-297-79185-0.
- Serendipity: A Light-hearted Look at People, Places and Things. Brighton: Royal Pavilion, Art Gallery & Museums, 1989. ISBN 0-948723-10-6.
- Public Appearances 1987–1991. London: Weidenfeld & Nicolson, 1991. ISBN 0-297-83122-4.
- Hong Kong: Portraits of Power. Boston: Little, Brown, 1995. ISBN 0-316-22052-3. Testyn gan Evelyn Huang a Lawrence Jeffery.
- Wild Flowers. London: Pavilion, 1995. ISBN 1-85793-783-X.
- Snowdon on Stage: With a Personal View of the British Theatre 1954–1996. London: Pavilion, 1996. ISBN 1-85793-919-0.
- Wild Fruit. London: Bloomsbury, 1997. ISBN 0-7475-3700-3. Testyn gan Penny David.
- London: Sight Unseen. London: Weidenfeld & Nicolson, 1999. ISBN 0-297-82490-2. Testyn gan Gwyn Headley.
- Photographs by Snowdon: A Retrospective. London: National Portrait Gallery, 2000. ISBN 1-85514-272-4.
- Snowdon. London: Chris Beetles Gallery, 2006. ISBN 1-871136-99-7.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "How Jewish is Lord Snowdon?". The Jewish Chronicle. 23 Medi 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-16. Cyrchwyd 2017-01-13.
- ↑ "Nobility in Tony's Background". Chicago Tribune 28 Ebrill 1960.
...Margaret was the daughter of Sir Owen Roberts
- ↑ Sandroyd – Old Sandroydians – 1939–1943 The Earl of Snowdon (A Armstrong-Jones) Archifwyd 2015-10-21 yn y Peiriant Wayback. Sandroyd School. Adalwyd 22 Mai 2013.
- ↑ Alderson, Andrew (31 Mai 2008). "Lord Snowdon, his women, and his love child". The Daily Telegraph.
- ↑ WELSH-TERMAU-CYMRAEG 20 Hydref 2015
- ↑ Daily Post Lord Snowdon dies: Tributes and reaction as Princess Margaret's former husband's death confirmed
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol Antony Armstrong-Jones, Iarll 1af Snowdon ar Gomin Wicimedia