Y Glymblaid Gyda'r Uchelgais Uchel i Ddod a Llygredd Plastig i Ben

rhwydwaith o wledydd

Clymblaid o wledydd a chyrff eraill yw'r Y Glymblaid Gyda'r Uchelgais Uchel i Ddod a Llygredd Plastig i Ben sy'n ceisio dod â llygredd plastig i ben erbyn 2040 ac sy'n annog gwledydd eraill i ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â ffynonellau llygredd plastig a diogelu'r planed. Ynghyd â'r UE a'r Cenhedloedd Unedig byddant yn pwyso am offeryn sy'n gyfreithiol rwymol a fydd yn sicrhau gweithredu brys, tra'n cymhwyso ymagwedd gylchol at blastigau. Yn 2023 nid oedd yr un o'r gwledydd mwyaf, o ran economeg, wedi ymuno: UDA, Tsieina na Rwsia.

Y Glymblaid Gyda'r Uchelgais Uchel i Ddod a Llygredd Plastig i Ben
Llygredd plastig yn Ghana
Enghraifft o'r canlynolclymblaid Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://hactoendplasticpollution.org/ Edit this on Wikidata

Ar 24 Tachwedd 2022 ym,unodd y Cenhedloedd Unedig gyda'r Glymblaid a oedd ar y pryd yn cael ei gyd-gadeirio gan Rwanda a Norwy; cyhoeddwyd hyn yn gyntaf yn UNEA5.2.

Dechreuwyd trafod a drafftio cytundeb newydd yn Wrwgwái ar 28 Tachwedd 2022 a disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn 2025.[1]

Mae plastigau yn ddeunyddiau pwysig i economi'r byd ac yn cael eu defnyddio ledled y byd bob dydd. Fodd bynnag, mae eu twf esbonyddol yn y degawdau diwethaf yn cael effeithiau difrifol a negyddol iawn. Dim ond tua 10 y cant o'r saith biliwn tunnell o wastraff plastig a gynhyrchir yn fyd-eang sy'n cael ei ailgylchu. Mae miliynau o dunelli o wastraff plastig yn cael eu colli i'r amgylchedd, neu weithiau'n cael eu cludo filoedd o gilometrau i gyrchfannau lle mae'n cael ei losgi neu ei ddympio'n bennaf.

Strategaethau

golygu
  1. Atal defnydd a chynhyrchiad plastig i lefelau cynaliadwy
  2. Galluogi economi gylchol ar gyfer plastigion sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac iechyd pobl
  3. Cyflawni rheolaeth amgylcheddol gadarn ac ailgylchu gwastraff plastig

Ar eu gwefan, noda'r Clymblaid yr hyn maen nhw'n ei geisio:

  1. Dileu plastigion problemus, gan gynnwys trwy waharddiadau a chyfyngiadau.
  2. Datblygu meini prawf a safonau cynaliadwyedd byd-eang ar gyfer plastigion
  3. Gosod llinellau sylfaen byd-eang a thargedau ar gyfer cynaliadwyedd drwy gydol oes plastigion.
  4. Sicrhau tryloywder yn y gadwyn masnachu plastigau, gan gynnwys ar gyfer cyfansoddiad deunydd a chemegol.
  5. Sefydlu mecanweithiau ar gyfer cryfhau ymrwymiadau, targedau a rheolaethau dros amser.
  6. Gweithredu monitro ac adrodd ar bob cam trwy gylch bywyd plastigion.
  7. Hwyluso cymorth technegol ac ariannol effeithiol, asesiadau gwyddonol ac economaidd-gymdeithasol.

Nid yw Cymru wedi ymuno ar ei liwt ei hun, ond mae yno fel rhan o'r DU.

Cyfeiriadau

golygu
  1. environment.ec.europa.eu; cyhoeddwyd 24 Tachwedd 2022; adalwyd 11 Mai 2023.