Y Goedwal Fawr, Maeshafn
Mae’r Goedwal Fawr yn goedwig ar ben bryn ger Maeshafn, Sir Ddinbych. Yn y bôn, coed ffawydd yw’r goedwal, er bod yno coed eraill, megis coed pinwydd, llarwydd, sycamor, ynn, bedw a chriafol.[1] Mae’r coedwig yn sefyll ar Galchfaen, ac mae hen chwarel calchfaen ar ochr ddwyreiniol y bryn.
Math |
coedwig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.131°N 3.199°W ![]() |
![]() | |
Mae ogof yn y goedwal, sydd yn estyn dros 15 medr dan ddaear. Cloddiwyd yr ogof ym 1949. Darganfuwyd 6 safle claddu a nifer o arteffactau o Oes yr Efydd.[2][3]
Gwelir gwyfynnod yn y goedwal, gan gynnwys Brith y llwyf, Crych Blomer a Seffyr y ffyrch ymysg eraill[4]. Gwelir hefyd Blodau'r Gwynt, Clychau'r Gog, Mintys a Suran y Coed.
Mae haen o blwm yn rhedeg trwy’r bryniau calchfaen rhwng Prestatyn a’r Mwynglawdd, yn pasio dros Mynydd Helygain a heibio Maeshafn[5] ac roedd pyllau plwm yn y Goedwal Fawr, yn ogystal ag Aberduna a’r holl ardal leol[6]. Gwelir ambell siafft yn y Goedwal Fawr hyd at heddiw.