Y Golau

Cyfres ddrama deledu Gymreig

Rhaglen ddrama seicolegol yw Y Golau. Dangoswyd y gyfres ar S4C yn 2022. Wedi ei ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, darlledir y fersiwn Saesneg ar Channel 4 o dan y teitl The Light In The Hall.

Y Golau
Adnabuwyd hefyd fel The Light In The Hall
Genre Drama
Serennu Alexandra Roach, Joanna Scanlan, Iwan Rheon
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud, yn cynnwys hysbysebion (S4C)
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C, Channel 4
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 15 Mai 2022

Crynodeb golygu

Dyw Sharon Roberts byth wedi dod dros marwolaeth ei merch Ela. Cafodd Joe Pritchard - garddwr tawel, diymhongar ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i'w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán.

Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu'n methu â dweud pam na beth wnaeth e â'i chorff.

Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato, yn wreiddiol o'r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. Roedd Ela wedi bod yn un o'i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i'w hanghofio.

Mae'r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi'r ddwy wraig i wynebu'r gorffennol a'u rhan yn nyddiau olaf Ela.

Gyda chynifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i'r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os mai Joe wnaeth ladd Efa, pam, a ble mae ei chorff?[1]

Cynhyrchiad golygu

Mae'r gyfres wedi'i chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a'i hysgrifennu gan Regina gydag Anwen Huws a Siân Naomi. Cafodd ei chyfarwyddo gan Andy Newbery (Un Bore Mercher) a Chris Forster (Craith).

Wedi ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae'r gyfres wedi cael ei chynhyrchu ar y cyd gan S4C, Channel 4, cynhyrchwyr annibynnol Triongl a Duchess Street Productions ar y cyd ag APC Studios a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Cymru Creadigol.

Cafodd Y Golau ei ffilmio mewn lleoliadau yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys Llandeilo, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Dyma'r tro cyntaf i Joanna actio yn yr iaith Gymraeg. [2]

Cast golygu

Penodau golygu

Cyfres 1 (2022) golygu

# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[3]
1"Pennod 1"Andy NewberyRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)15 Mai 2022 (2022-05-15)70,000
Wedi llofruddiaeth Ela Roberts yn 2002, mae Joe Pritchard wedi treulio 18 mlynedd yn y carchar ond heb ddatgelu lle mae'r corff. Pan dorra'r newyddion bod Joe ar fin cael ei ryddhau o'r carchar er mawr ofid i Sharon, mam Ela, mae'r newyddiadurwr Cat Donato yn penderfynu dychwelyd i Lanemlyn i chwilio am atebion ac i ddarganfod y gwir. Ond a fydd croeso cynnes iddi yn ôl yn y dre lle'i magwyd' Mae Sharon hefyd yn benderfynol o gael atebion - a does dim ots gyda hi sut mae hi'n eu cael nhw.
2"Pennod 2"Andy NewberyRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)22 Mai 2022 (2022-05-22)52,000
Oes gan Joe unrhyw atebion i Sharon' Oes rhywun all ei berswadio i ddatgelu beth ddigwyddodd y noson honno' Mae Cat yn parhau gyda'i hymholiadau sy'n ei gwneud hi'n fwy amhoblogaidd gyda phob cwestiwn. Wrth i'r newyddion am Joe Pritchard yn cael ei ryddhau ledaenu trwy Lanemlyn, mae Sharon yn fwy penderfyndol nag erioed o gael atebion - er gwaetha rhybuddion yr heddlu. Yn y cyfamser, mae Joe yn trio'i orau glas i ddygymod â bywyd tu allan i'r carchar a symud ymlaen o'i orffennol.
3"Pennod 3"Andy NewberyAnwen Huws29 Mai 2022 (2022-05-29)55,000
Mae Dai yn parhau i gefnogi Sharon trwy bopeth, tra bod tensiynau'n codi rhyngddi hi a Gafyn. Sut fydd Sali'n ymateb pan mae hi'n darganfod cyfrinach Greta' Mae Cat a Caryl yn dal lan eto ac mae'r hyn sydd gan Caryl i ddweud yn gwneud i Cat ail-ystyried y gorffennol. Beth fydd ymateb Joe i fygythiadau cyson Sharon?
4"Pennod 4"Chris ForsterSian Naiomi5 Mehefin 2022 (2022-06-05)51,000
Mae Sharon ar binnau ar ôl ymweliad Joe - a fydd hyn y ddigon iddi rhoi'r gorau i'r bygythiadau' Daw DCI Parry i ymweld â Cat a'i rhybuddio i roi'r gorau i chwilota am wybodaeth. Mae'r hyn mae'n ei ddweud wrthi'n ei gwneud hi'n fwy penderfynol fyth o ddod o hyd i'r gwir. Pan aiff pethau o ddrwg i waeth i Sharon, daw help o gyfeiriad annisgwyl.
5"Pennod 5"Chris ForsterAnwen Huws12 Mehefin 2022 (2022-06-12)42,000
Mae'n edrych fel bod pethau'n mynd o ddrwg i waeth i Sharon ac i Joe. Tra bod Gafyn, Greta a Dai yn cefnogi Sharon, mae Shelley a Cat yn gwneud popeth gallan nhw i helpu Joe i gofio digwyddiadau'r noson dyngedfennol honno. Wrth i Sharon gael ei rhyddhau o'r ysbyty, mae darn pwysig o dystiolaeth yn dod i'r golwg...beth bydd hi'n penderfynu gwneud? Mynd at yr heddlu neu dibynnu ar Cat i roi'r jig-so at ei gilydd? Mae digwyddiad brawychus yn achos siarad a gofid yn y gymuned...
6"Pennod 6"Chris ForsterRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)19 Mehefin 2022 (2022-06-19)35,000
Mae Cat a Joe yn dychwelyd i'r goedwig i weld os all Joe gofio beth ddigwyddodd. Wrth i Joe fentro ar siwrne sy'n ei gythruddo a'i aflonyddu, a fydd unrhywbeth yn ei atgoffa pwy oedd yn y goedwig ar y diwrnod hwnnw a beth ddigwyddodd go iawn/ A fydd Sharon yn cael atebion unwaith ac am byth er mwyn sicrhau bod Ela yn cyrraedd adre'n saff?

Cyfeiriadau golygu

  1.  Enwau mawr yn serennu yn nrama newydd Y Golau ar S4C. S4C (27 Ebrill 2022).
  2. Denu’r sêr at Y Golau ar S4C , Golwg360, 15 Mai 2022.
  3. Ffigyrau gan S4C. Gweler Ffigurau Gwylio S4C.