Hannah Daniel
actores a aned yn 1986
Actores o Gymraes yw Hannah Daniel (ganwyd 20 Ionawr 1986)[1], sy'n adnabyddus am ei rhannau ar gyfresi teledu Y Gwyll ac Un Bore Mercher.
Hannah Daniel | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1986 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Taldra | 165 centimetr ![]() |
Tad | Emyr Daniel ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i ganwyd yn Ysbyty'r Waun a'i magwyd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Mae ganddi frawd hŷn Mathew a chwaer iau, Beca.[2] Ei thad oedd y darlledwr Emyr Daniel.[3]
Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd ac fe astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain.[1]
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Llundain gyda'i phartner Richard Harrington. Ar ddiwedd 2019 ganwyd eu mab, Moris Emyr.[4]
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2005 | Dad | Millie James | Ffilm deledu |
2005 | Casualty | Dee Naseby | Pennod: Baby Love |
2008 | Y Garej | Cyd-gyflwynydd | |
2010 | Pen Talar | Gail | |
2011–2015 | Gwaith Cartref | Beca Matthews | Prif ran |
2015 | Doctors | Christina Evenden | Pennod: Trust Me I’m a Doctor |
2013–2016 | Y Gwyll | DS Siân Owen | Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Hinterland.[5] |
2017–presennol | Un Bore Mercher | Cerys Jones | Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Keeping Faith. |
2018 | Holby City | Leah Faulkner | |
2018 | The Tourist Trap | Andi | |
2018 | Morfydd | Beti Bwt | |
2019 | EastEnders | DCI Morgan |
Ffilm
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014 | Benny and Jolene | Strictly Sherry | |
2015 | Black Mountain Poets | Alys Wilding |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Taflu golau ar un o sêr Y Gwyll: Hannah Daniel Archifwyd 2016-01-16 yn y Peiriant Wayback; Pobl Caerdydd; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ Taflu golau ar un o sêr Y Gwyll: Hannah Daniel. Pobl Caerdydd (22 Medi 2015). Adalwyd ar 8 Hydref 2020.
- ↑ 'Gymrodd flynyddoedd i fi allu delio gyda'r peth' , BBC Cymru Fyw, 6 Hydref 2020. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2020.
- ↑ Hannah Daniel: Gwaith, gyrfa a bod yn fam , BBC Cymru Fyw, 29 Ionawr 2020. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2020.
- ↑ Morgan, Sion (20 May 2014). "Hinterland: What We Know So Far About the Second Season". Wales Online. Cyrchwyd 8 February 2016.
Dolenni allanol
golygu- Hannah Daniel ar wefan Internet Movie Database
- Hannah Daniel ar Twitter