Craith (cyfres deledu)
Rhaglen ddrama drosedd Gymraeg yw Craith wedi ei leoli yn ardal Eryri.
Craith | |
---|---|
Adnabuwyd hefyd fel | Hidden |
Genre | Drama |
Serennu | Sian Reese-Williams Rhodri Meilir |
Cyfansoddwr/wyr | John Hardy Music |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 20 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Hannah Thomas |
Lleoliad(au) | Eryri |
Sinematograffeg | Stuart Biddlecome |
Amser rhedeg | 50 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Severn Screen |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C BBC iPlayer |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 7 Ionawr 2018 | – presennol
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Crëwyd y gyfres gan Mark Andrew ac Ed Talfan. Awduron y gyfres yw Caryl Lewis, Jeff Murphy a James Rourke. Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Severn Screen ar gyfer S4C a BBC Cymru a bydd yn cael ei werthu'n rhyngwladol gan All3Media International. Darlledir y fersiwn Gymraeg Craith ar S4C gyda fersiwn dwyieithog, Hidden yn cael ei ddangos yn ddiweddarach ar BBC One Wales ac ar BBC Four ar draws y Deyrnas Unedig.[1] Enillodd y gyfres wobr BAFTA Cymru 2018 am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen.[2] Darlledir y rhaglen ar S4C nos Sul rhwng 21:00 a 22:00, mewn slot a ddaeth yn arferol ar gyfer dangos cyfresi drama newydd.
O Fangor, dros ddyfroedd Afon Menai, i hen chwareli Llanberis, dyma dirwedd sy’n adnabyddus i DI Cadi John. Doedd hi erioed wedi disgwyl dychwelyd yma. Wedi ei thynnu'n ôl am resymau personol - iechyd difrifol ei thad annwyl - mae Cadi yn darganfod ei hun yn plismona pentrefi a phobl ei ieuenctid. Mae'n swydd y mae hi'n ei mwynhau. Fodd bynnag, pan ddatgelir corff dynes leol mewn afon anghysbell, mae byd Cadi - a byd y rhai o'i chwmpas - yn newid am byth.
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn y gogledd orllewin, o amgylch dinas Bangor a lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cynhyrchiad
golyguCychwynwyd ffilmio'r gyfres ar leoliad yn Awst 2017.[3] Cafodd y cynhyrchiad ei ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllid Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru, wedi eu cynghori gan Pinewood Pictures. Bydd yr holl ffilmio yn cael ei wneud mewn lleoliadau o amgylch Cymru gyda'r gwaith ôl-gynhyrchu yng Nghymru hefyd.
Cyhoeddwyd bod ail gyfres ar y gweill ym mis Medi 2018. Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Roedd Hidden yn boblogaidd iawn ymhlith cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DU, felly does dim syndod ein bod eisiau comisiynu ail gyfres. Mae’r gyfres ddrama drosedd dywyll hon yn fwy bygythiol byth gyda tirwedd garw gogledd Cymru yn gefndir i’r cyfan. Bydd yr ail gyfres yn mynd â ni i Flaenau Ffestiniog, ac rwy’n siŵr y bydd cynulleidfaoedd yr un mor gyffrous â mi i weld y ddrama afaelgar hon yn dychwelyd”. Darlledwyd yr ail gyfres ar S4C ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2019. Cychwynnodd y drydedd cyfres o chwe pennod ar 10 Hydref 2021. Hwn fydd y gyfres olaf.[4]
Cast a chymeriadau
golygu- Sian Reese-Williams - DI Cadi John
- Sion Alun Davies - DS Owen Vaughan
- Rhodri Meilir - Dylan Harris
- Gillian Elisa - Iona Harris
- Gwyneth Kenworth - Megan Ruddock
- Owen Arwyn - Alun Pryce
- Lara Catrin - Lea Pryce
- Elodie Wilton - Nia Harris
- Lois Meleri-Jones - Lowri Driscoll
- Nia Roberts - Dr Elin Jones
- Ian Saynor - Huw John
- Megan Llŷn - Bethan John
- Victoria Pugh - DSI Susan Lynn
- Sarah Tempest - Alys Mitchell
- Mali Ann Rees - Ffion
- Lowri Izzard - PC Mari James
- Garmon Rhys - PC Ryan Davies
- Sarah Tempest - Alys Mitchell
- Mari Rowland Hughes - Delyth Hughes
- Ieuan Watkins - Aneurin
- Gwion Aled Williams - Tomos Elis
- Llion Williams - Darlithydd prifysgol
- Greta James - Mali Pryce
- Ioan Hefin - Matthew
- Mark Lewis Jones - Endaf Elwy
Penodau
golyguCyfres 1 (2018)
golyguDrama dditectif ddwys llawn diregelwch a thensiwn. Mae bywydau DI Cadi John a DS Owen Vaughan yn cael eu hysgwyd ar ôl dod o hyd i gorff merch ifanc wrth ymyl afon. Pwy yw hi a ble mae ei theulu?
# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr [5] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Gareth Bryn | Caryl Lewis & Mark Andrew | 7 Ionawr 2018 | 69,000 |
Mae bywydau DI Cadi John a DS Owen Vaughan yn cael eu hysgwyd ar ol dod o hyd i gorff merch ifanc wrth ymyl afon yng Ngogledd Cymru. Wedi dysgu pwy yw hi, mae'n edrych yn debyg ei bod yn un o nifer o ferched sydd wedi mynd ar goll yn yr ardal. Mae yna gyfrinachau yn cael eu cuddio yn yr ardal odidog yma o Ogledd Orllewin Cymru. | |||||
2 | "Pennod 2" | Gareth Bryn | Caryl Lewis a James Rourke | 14 Ionawr 2018 | 49,000 |
Mae Lowri Driscoll, nyrs leol, yn denu sylw Dylan Harris. Mae Cadi a Vaughan yn clywed mwy am fywyd caled Mali wrth ymweld a'i ffrind ysgol, Sara Dean. Mae ymwelwyr digroeso yn galw yng nghartref Dylan a Iona Harris i holi os oedd y trigolion wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol y noson cyn i gorff Mali gael ei ddarganfod. | |||||
3 | "Pennod 3" | Eric Styles | James Rourke | 21 Ionawr 2018 | 51,000 |
Mae Cadi a'i chwaer Elin yn cael cyfle i drafod dyfodol eu tad ac mae bydoedd Dylan a Megan yn gwrthdaro pan maen nhw yn yr un lle ar yr un pryd. | |||||
4 | "Pennod 4" | Gareth Bryn | Jeff Murphy | 28 Ionawr 2018 | 48,000 |
Mae realiti hunllefus bywyd yn nhy Iona a Dylan Harris yn bwrw Megan Ruddock. Mae tymer Iona yn gwaethygu wrth iddi gosbi Nia ac mae'r heddlu yn ymweld a Dylan i'w gwestiynu. | |||||
5 | "Pennod 5" | Eric Styles | James Rourke | 4 Chwefror 2018 | 54,000 |
Mae Cadi a Vaughan yn symud ymlaen a'r ymchwiliad wrth iddyn nhw ymweld a Bryn Roberts, perchennog iard sgrap leol. Mae rhwystredigaeth Alun Pryce yn dod yn amlwg pan mae e'n ymosod ar fan y troseddwr lleol, Tomos Elis. | |||||
6 | "Pennod 6" | Chris Forster | Caryl Lewis | 11 Chwefror 2018 | 40,000 |
Mae Cadi yn mynd i gwestiynu Endaf Elwy yn y carchar ac mae'r heddlu yn sylweddoli bod merch ifanc arall wedi'i chipio ar ol iddynt glywed bod Megan ar goll. | |||||
7 | "Pennod 7" | Gareth Bryn | Jeff Murphy | 18 Chwefror 2018 | 44,000 |
Mae'r gwrthdaro rhwng Alun Pryce ac Ieuan Rhys yn cyrraedd uchafbwynt ar yr ystad. Mae Lea Pryce yn cael ei thynnu i mewn i frwydr ei thad. Mae'r heddlu yn llwyddo i gael y wybodaeth sydd angen arnyn nhw o'r diwedd ac mae hyn yn arwain at ddigwyddiadau ffrwydrol yng nghartref Iona a Dylan Harris. | |||||
8 | "Pennod 8" | Gareth Bryn | Caryl Lewis | 25 Chwefror 2018 | 40,000 |
Hefo Dylan Harris ar ffo, a fydd Cadi a Vaughan yn llwyddo i'w ddal a dod a'r hunllef i ben ym mhennod ola'r gyfres? Mae'r heddlu yn gwneud darganfyddiad erchyll ar dir Iona a Dylan Harris ac mae Cadi yn dod i delerau a difrifoldeb salwch ei thad. Mae gadael fynd bob tro'n anodd. |
Cyfres 2 (2019)
golyguAr ôl derbyn galwad ddi-enw sydd yn arwain yr heddlu at gorff hen ddyn sydd wedi gorwedd yn pydru am wythnosau, mae DCI Cadi John a DS Owen Vaughan yn gorfod gweithio yn erbyn y cloc i ddarganfod hunaniaeth y llofrudd. Mae hyn yn eu harwain i ddatgelu rhagor o gyfrinachau tywyll yng nghysgod mynyddoedd llechi Blaenau Ffestiniog.
# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Gareth Bryn | Caryl Lewis a James Rourke | 17 Tachwedd 2019 | 44,000 |
Pan mae corff hen ddyn yn cael ei ddarganfod mewn ty y tu allan i Flaenau Ffestiniog, mae DCI Cadi John a DS Owen Vaughan yn cael eu galw i arwain yr ymchwiliad. | |||||
2 | "Pennod 2" | Gareth Bryn | Caryl Lewis | 24 Tachwedd 2019 | 46,000 |
Mae D.C.I. Cadi John a D.S. Owen Vaughan yn ymweld â Karl Lewis, a Mia yn llwyddo denu Connor yn nes ati hi. | |||||
3 | "Pennod 3" | Gareth Bryn | James Rourke | 1 Rhagfyr 2019 | 41,000 |
Mae'r gymuned yn uno i dalu teyrnged i Geraint Ellis ac mae Mia yn denu Connor yn agosach iddi | |||||
4 | "Pennod 4" | Chris Forster | David Chidlow | 8 Rhagfyr 2019 | 49,000 |
Mae'n rhaid i D.C.I Cadi John adael i Karl fynd oherwydd diffyg tystiolaeth. Mae Mia, Connor a Lee yn achosi trafferth i Hefin, Beca a Sion. | |||||
5 | "Pennod 5" | Chris Forster | David Chidlow | 15 Rhagfyr 2019 | 32,000 |
Mae Hefin yn dod o hyd i gorff Sion Wells yn yr orsaf betrol ac nawr mae'n rhaid i'r ditectifs ddelio gyda dau achos o lofruddiaet | |||||
6 | "Pennod 6" | Chris Forster | Caryl Lewis | 22 Rhagfyr 2019 | 36,000 |
Mae Cadi a Vaughan yn llwyddo atal Mia, Lee a Connor ond nid oes unrhyw fuddugoliaeth ar gael fan hyn. |
Cyfres 3 (2021)
golyguMae DCI Cadi John a DS Owen Vaughan yn cael eu galw i ymchwilio pan ddarganfyddir corff ffermwr lleol mewn nant.
# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Chris Forster | Caryl Lewis | 10 Hydref 2021 | 67,000 |
Pan mae corff dyn yn cael ei ddarganfod mewn afon, mae Cadi a Vaughan yn cael eu galw i archwilio i'r achos. Mae Cadi mewn cyfyng gyngor ynglŷn â'i dyfodol. | |||||
2 | "Pennod 2" | Chris Forster | Caryl Lewis | 17 Hydref 2021 | 76,000 |
Mae'r Tad McEwan yn dod i weld Glyn i holi sut mae'n ymdopi efo'r hyn sydd wedi digwydd - er mawr sioc i Siôn. Mae'n rhaid i Cadi wynebu'r ffaith ei bod hi wedi achosi loes i rywun sydd yn bwysig iddi. | |||||
3 | "Pennod 3" | Chris Forster | Caryl Lewis | 24 Hydref 2021 | 66,000 |
Mae Cadi a Vaughan yn cyfweld a Piotr, dyn o wlad Pwyl sydd yn gweithio yn yr hen ysbyty ond nid oes ganddo lawer o wybodaeth. Mae'r chwiorydd yn ffarwelio efo'r tŷ ar yr ynys. | |||||
4 | "Pennod 4" | Andy Newbery | Caryl Lewis | 31 Hydref 2021 | 62,000 |
Mae Cadi yn taflu ei hunan i mewn i'w gwaith - ac mae Siôn yn derbyn newyddion drwg yn ei waith ei hunan. Mae Siôn yn mynnu atebion gan y Tad McEwan. | |||||
5 | "Pennod 5" | Andy Newbery | Liam Foley | 7 Tachwedd 2021 | 87,000 |
Mae'r newyddion yn cyrraedd yr orsaf heddlu bod yna gorff wedi cael ei ddarganfod. Mae Cadi a Vaughan yn cyrraedd sylweddoliad ynglŷn â'r achos - ac mae'n rhaid iddyn nhw symud yn gyflym. | |||||
6 | "Pennod 6" | Andy Newbery | Caryl Lewis | 14 Tachwedd 2021 | 52,000 |
Mae tristwch y sefyllfa yn amlwg wrth i Cadi cyfweld a Siôn - beth fydd y dyfodol i Glyn? Mae Cadi yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'i dyfodol. Diwedd cyfnod ar sawl lefel. |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tair drama i danio'r dychymyg - yn dechrau gyda Bang.... S4C (10 Awst 2017). Adalwyd ar 21 Awst 2017.
- ↑ Gwobrau BAFTA Cymru 2018 – yr enillwyr , Golwg360, 15 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) Filming starts on new BBC Wales and S4C crime series: Hidden/Craith. BBC (1 Awst 2017). Adalwyd ar 6 Ionawr 2018.
- ↑ Cymru noir yn nôl ar y sgrin gyda chyfres newydd o Craith. S4C (17 Medi 2021). Adalwyd ar 2 Hydref 2021.
- ↑ Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Severn Screen
- (Saesneg) Craith ar wefan Internet Movie Database