Y Gyfnewidfa Lo

adeilad yng Nghaerdydd

Adeilad ar gyfer masnachu glo yng Nghaerdydd ydy'r Gyfnewidfa Lo (Saesneg: Coal Exchange), yn ogystal â bod yn lleoliad i nifer o swyddfeydd erbyn heddiw. Fe'i lleolir ym Mae Caerdydd, ger The Point, ac fe'i defnyddir ar gyfer cynnal cyngherddau cerddoriaeth byw a nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd.

Y Gyfnewidfa Lo
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1888 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Caerdydd, Tre-Biwt Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Tre-Biwt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr7.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4654°N 3.1682°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Cynllunwyd yr adeilad gan y pensaer Edwin Seward. Fe'i adeiladwyd rhwng 1883 a 1886 fel canolfan ar gyfer cynnal trafodaethau masnach ynglŷn â phyllau glo Cymoedd De Cymru – cludid y rhan fwyaf o'r glo hwnnw i Gaerdydd i gael ei ddosbarthu. Chwaraeodd yr adeilad rôl arbennig o bwysig yng Nghaerdydd ddiwydianol yr 19g. Dywedir mai yn y Gyfnewidfa Lo yr ysgrifennwyd y siec cyntaf am £1,000,000, yn ystod cyfnewid ar droad yr 20g, er mwyn allforio 2500 tunnell o lo i Ffrainc.

Dolenni allanol

golygu
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato