Tre-biwt
Ardal, cymuned a ward etholiadol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, yw Tre-biwt, weithiau Tre Bute (Saesneg: Butetown). Mae'r sillafiad Cymraeg, ffonetig 'Biwt' yn mynd yn ôl i'r 19g.[1][2]
Math | dosbarth, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,127 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.467°N 3.166°W |
Cod SYG | W04000838 |
AS/au y DU | Stephen Doughty (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tre-biwt yw ardal dociau Caerdydd, ac mae'n cynnwys Tiger Bay, fu'n destun y ffilm o'r un enw. Yn ne'r gymuned mae Bae Caerdydd. Erbyn hyn ceir llyn dŵr croyw mawr yma, a grewyd trwy godi morglawdd. Ceir Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn yr ardal yma.
Mae'n cynnwys cymunedau adnabyddus megis Sgwâr Loudoun a arferir bod yn ardal gyfoethog ond sydd wedi dioddef tlodi yn ystod yr 20g. Mae bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gynnwys yn 2023 dechrau ar gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Tre-biwt.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Pobl enwog o Dre-biwt
golygu- Shirley Bassey (g. 1937), canwr
- Billy Boston (g. 1934), chwaraewr rygbi
- Ryan Giggs (g. 1973), chwaraewr pêl-droed
- Betty Campbell (1934–2017), athrawes ac ymgyrchydd cymunedol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ twitter.com; trydariad gan yr Athro Dylan Foster Evans; adalwyd 5 Rhagfy r 2018.
- ↑ papuraunewydd.llyfrgell.cymru; Papurau Newydd Cymru Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 5 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder bod y canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf