Y Mabinogi (2003)

ffilm antur gan Derek W. Hayes a gyhoeddwyd yn 2003

Ffilm Gymraeg animeiddiedig oedd Y Mabinogi a ryddhawyd yn 2003. Comisiynwyd y ffilm gan S4C i ddathlu pen-blwydd y sianel yn ugain mlwydd oed. Dangoswyd y fersiwn Cymraeg mewn rhai sinemau yng Nghymru yn Tachwedd 2002.[1] Darlledwyd y ffilm ar S4C am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 2004. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Derek Hayes.

Y Mabinogi
Teitl amgen Otherworld
Cyfarwyddwr Derek W. Hayes
Cynhyrchydd Naomi Jones
Ysgrifennwr Martin Lamb, Penelope Middleboe
Serennu Daniel Evans, Jenny Livsey, Matthew Rhys
Cerddoriaeth John Cale
Golygydd William Oswald
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Cartwn Cymru / S4C Rhyngwladol / Cyngor Celfyddydau Cymru / British Screen Productions / BSkyB
Dyddiad rhyddhau 2003
Amser rhedeg 90 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg (gwreiddiol); Saesneg

Crynodeb golygu

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, caiff byd Lleu ei chwalu gyda’r newyddion ei fod wedi ei fabwysiadu. Ar yr un diwrnod, mae ei ffrind Rhiannon yn amau ei bod yn feichiog, ac mae Dan, sy’n byw yng nghysgod ei frawd mawr, yr un mor chwit chwat ag erioed.

Er gwaethaf eu problemau personol mae’r tri yn dod at ei gilydd ar ben-blwydd Lleu, ac yn cychwyn ar anturiaeth mewn cwch bysgota fychan. Ymhen ychydig maent yn gweld rhyw newid yn y dwr, ac maent yn sylweddoli eu bod, ar noswyl Gŵyl Fai, wedi dod o hyd i borth aur y Byd Arall, sydd i’w weld yn disgleirio ymhell o dan y don.

A hithau yn ferch annibynnol a phenstiff, dydy Rhiannon ddim yn meddwl ddwywaith cyn plymio i’r môr mawr, a dydy’r ddau arall ddim yn hir yn ei dilyn. Fel y maent yn plymio yn is ac yn is i’r dyfnderoedd ac yn nesàu at y porth, fe gânt eu cludo ganrifoedd yn ôl i fyd anhygoel y Mabinogi.

Ond mae gan Rhiannon, Manawydan a Lleu Llaw Gyffes eu problemau Canol Oesol eu hunain. Mae Rhiannon yn cael ei gorfodi i briodi rhywun nad yw’n ei garu, mae Manawydan yn ceisio gwneud iawn am gynllwynio mileinig brawd byrbwyll ac mae Lleu yn ceisio dygymod â'r ffaith i’w fam ei wrthod fel baban.

Wrth geisio goresgyn y problemau hyn rhaid i’r cymeriadau wynebu’r gwrthdaro rhwng ffawd, dewis personol a hud a lledrith.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

Cast cefnogol golygu

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: 12A

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau golygu

Adolygiadau golygu

  • Osmond, Andrew. Sight and Sound (UK) Medi 2003, Vol. 13
  •  Otherworld. Empire Magazine Online. Adalwyd ar 5 Medi 2014.      
  • (Saesneg) "NB" (5 Medi 2014). Otherworld. Time Out. Adalwyd ar 5 Medi 2014.

Erthyglau golygu

  • Lamb, M., Middleboe, P. ‘Addasu y Mabinogi yn ffilm animeiddiedig’. Yn Chwileniwm, 139-156 (2002, Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Mabinogi yn yr Ardd , BBC Cymru’r Byd, 12 Gorffennaf 2003. Cyrchwyd ar 5 Medi 2014.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ffilm Animeiddiedig Newydd S4C , BBC Cymru’r Byd, 1 Tachwedd 2002. Cyrchwyd ar 5 Medi 2014.

Dolenni allanol golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Y Mabinogi ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.