Ioan Gruffudd
Actor o Gymru yw Ioan Gruffudd (ganwyd 6 Hydref, 1973).
Ioan Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 6 Hydref 1973 Caerdydd |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Adnabyddus am | Fantastic Four, Titanic, 102 Dalmatians, Hornblower |
Math o lais | bariton |
Taldra | 180 centimetr |
Priod | Alice Evans |
Cafodd ei addysgu yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig, a daeth i'r amlwg ar lefel ryngwladol trwy chwarae rhan y Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic ym 1997. Serch hynny, tu hwnt i Gymru fe'i adnabyddir yn well am ei bortread o Horatio Hornblower yn y gyfres o ffilmiau teledu Hornblower (1998-2003, cyfres wedi ei seilio ar nofelau C. S. Forester).
Yn lled-ddiweddar mae Gruffudd wedi sefydlu ei hun fel "seren" Hollywood, yn chwarae rhannau Lancelot yn y ffilm King Arthur (2004), Reed Richards neu Mister Fantastic yn y ffilm Fantastic Four (2005) a'i dilyniant Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ffilm Amazing Grace (2006).
Bywgraffiad
golyguBywyd Cynnar a Theulu
golyguGanwyd Gruffudd ar Hydref 6 1973 ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, yn Ne Cymru. Symudodd ei deulu wedyn i Gaerdydd. Roedd ei rieni, Peter a Gillian Gruffudd, yn athrawon. Mae ganddo frawd dwy flynedd yn iau nag ef, sef Alun, a chwaer, Siwan, sydd yn saith mlynedd yn iau.
Addysg
golyguAeth Gruffudd i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (Ynyslwyd) (bellach wedi ei lleoli yng Nghwmdâr), Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, a Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, lle cymerodd ei TGAU a'i Lefelau-A. Yn gerddorwr naturiol, chwaraeodd yr oboe yn ei arddegau, gan ennill lefel Gradd 8 ynddi.
Gyrfa
golyguDechreuodd Gruffudd ei yrfa fel actor yn 12 oed yn y ffilm Gymraeg Austin (1986) a symudodd wedyn i'r opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm o 1987 tan 1994. Yn 18 oed, aeth i Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig yn Llundain. Ym 1996 ymddangosodd mewn fersiwn newydd o'r gyfres deledu Poldark.
Ar ôl chwarae rhan cariad Oscar Wilde,John Gray, yn y ffilm Wilde (1997), chwaraeodd ei rol rhyngwladol cyntaf fel Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic. Wedyn chwaraeodd ran Horatio Hornblower yn Hornblower.
Mae ei waith fel actor ar deledu yn cynnwys charae rhan Pip yn y cynhyrchiad BBC o Great Expectations (1999), y stori gan Charles Dickens, chwaraeodd ran Solomon Levinsky yn y ffilm Solomon a Gaenor (1999), a rhan y pensaer Philip Bosinney yn addasiad ITV o The Forsyte Saga (2002). O ran ffilmiau, mae Gruffudd wedi ymddangos yn 102 Dalmatians (2000), Black Hawk Down (2001), King Arthur (2004), Fantastic Four a'i dilyniant Fantastic Four: Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ddrama hanesyddol Amazing Grace (2006).
Cafodd ei dderbyn gan yr Orsedd yn 2003.
Bywyd Personol
golyguPriododd Ioan yr actores Alice Evans ar 14 Medi 2007. Roedd y ddau yn byw yn Los Angeles, Califfornia ac mae ganddynt ddwy ferch. Ym mis Chwefror 2021, gwahanodd y cwpl. Ym Mawrth 2021, cychwynodd Ioan gais am ysgariad.[1]
Ffilm a theledu
golygu- Wilde (1997)
- 102 Dalmatians
- Black Hawk Down
- King Arthur (2004)
- Fantastic Four (2005)
- Amazing Grace (2006)
- Fantastic 4: Rise of the Silver Surfer (2007)
- Sanctum (2011)
- San Andreas (2015)
Rhaglenni Teledu
golygu- Pobol y Cwm
- Great Expectations
- The Forsyte Saga
- Hornblower
- Ringer
- Forever
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Welsh actor Ioan Gruffudd has filed for divorce from actress wife (en) , WalesOnline, 3 Mawrth 2021. Cyrchwyd ar 13 Mai 2021.