Mae ffilm Gymraeg yn mynd yn ôl i Y Chwarelwr yn 1935,[1] ffilm ddu a gwyn, gyda thrac sain Cymraeg ar riliau ar wahân, yn dangos agweddau bywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog, yn cynnwys ei fywyd cartref, gwaith a'r capel. Cafodd ei chynhyrchu gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan John Ellis Williams. Cafodd y ffilm ei dangos mewn nifer o sinemâu cludadwy ar hyd a lled Cymru rhwng 1935 ac 1940, ac roedd hi'n llwyddiannus iawn yn y Gogledd. Dywedwyd mewn llythyr yn Y Cymro ym Mawrth 1936:

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg. Pan sylweddolir fod y 'talkie' Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol.[2]

Un o'r ffilmiau Cymraeg enwocaf yw Hedd Wyn (1992) gan Paul Turner. Cafodd ei henwebu am Oscar yn y categori ffilm iaith dramor orau yn 1994. Derbyniodd Hedd Wyn llawer o gymeradwyaeth nid yn unig yng Nghymru gan ei fod yn hybu'r Gymraeg, ond ar draws y byd am ei thechnegau ffilm a'i themâu dwfn.[3] Yr unig ffilm Gymraeg arall i gael ei henwebu am Oscar yw Solomon & Gaenor (1999), hanes Iddew ifanc (Ioan Gruffudd) yn ystod terfysgoedd gwrth-Semitaidd yng Nghymru yn 1911.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Casglu'r Tlysau – 'Y Chwarelwr' (1935)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-08. Cyrchwyd 2006-07-29.
  2. BBC — Cymru Ar Yr Awyr – Y ffilm Gymraeg gyntaf
  3. MediaEd Archifwyd 2007-09-11 yn y Peiriant Wayback. – cymorth astudio'r ffilm Hedd Wyn