Y Mursennod coch a glas-ddu

teulu o fursennod
Coenagrionidae
Gwryw Ceriagrion glabrum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Uwchdeulu: Coenagrionoidea
Teulu: Coenagrionidae
Genera

Ceir dros 90 genera.

Austroagrion watsoni, benyw
Ceriagrion coromandelianum
Coenagrion puella
Ischnura elegans
Pseudagrion rubriceps

Teulu o bryfaid yw Coenagrionidae (neu yn Gymraeg: y Mursennod coch a glas-ddu) sydd wedi'i osod oddi fewn i urdd yr Odonata ac is-urdd Zygoptera. Mae'r Zygoptera yn fath o fursennod sy'n llai adnabyddus na gweision y neidr, ond yr un mor niferus a'r un mor llachar eu lliw. Mae gan y teulu hwn dros fil o rywogaethau gwahanol, sy'n ei gwneud y teulu mwyaf o fursennod. Mae 6 isdeulu oddi fewn i deulu'r Coenagrionidae: Agriocnemidinae, Argiinae, Coenagrioninae, Ischnurinae, Leptobasinae, a Pseudagrioninae.

Cyfeirir at y teulu hwn fel 'y mursennod meinaf eu hadenydd' neu weithiau fel 'mursennod y pyllau dŵr.[1] Maent i'w canfod ledled y byd, ac maent ymhlith y teulu o fursennod mwyaf niferus. Ceir dros 90 genera yn nheulu'r Coenagrionidae.[2]

Geirdarddiad golygu

Daw'r gair Lladin (gwyddonol) o'r gair Groeg coen sef 'rhybeth cyffredin, wedi'i rannu' ac agrio sef 'mannau gwyllt neu gaeau agored.

Genera golygu

Rhestr gyflawn o'r genera:

Cyfeiriadau golygu

  1. Borror, D.J. and White, R.E. (1970). A Field Guide to Insects. Boston: Houghton Mifflin Company. ISBN 0-395-91171-0.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Integrated Taxonomic Information System (2007). Coenagrionidae, adalwyd 4 Tachwedd 2007.

Dolennau allanol golygu