Y Mwrllwch Mawr
Cyfnod o lygredd aer enbyd a effeithiodd dinas Llundain ym mis Rhagfyr 1952 oedd y Mwrllwch Mawr. Wedi cyfnod o dywydd oer iawn ac eira trwm, bu cartrefi Llundain yn llosgi maint mawr o lo i gadw'n gynnes. Ni wasgarodd y mwg o'r simneiau oherwydd gwrthseiclon uwchben yr ardal, gan achosi gwrthdroad aer ac yn dal y mwg cynnes yn agos i'r tir.[1] Bu farw 12,000 o bobl o ganlyniad i effeithiau'r mwrllwch.[2] Pasiwyd Deddf Awyr Lân 1956 i geisio lleihau niwl trwchus yn y DU.[3]
Math o gyfrwng | trychineb, Mwrllwch |
---|---|
Dyddiad | Rhagfyr 1952 |
Lladdwyd | 12,000 |
Dechreuwyd | 5 Rhagfyr 1952 |
Daeth i ben | 9 Rhagfyr 1952 |
Lleoliad | Llundain |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The Great Smog of 1952. Swyddfa'r Tywydd. Adalwyd ar 19 Chwefror 2014.
- ↑ Spignesi, Stephen J. The 100 Greatest Disasters of All Time (Efrog Newydd, Citadel, 2002), t. 121–3.
- ↑ (Saesneg) 1952: London fog clears after days of chaos. BBC. Adalwyd ar 19 Chwefror 2014.