Math o lygredd aer yw mwrllwch sy'n ymddangos mewn ardaloedd trefol pan bo niwl yn cyfuno â mwg o geir neu ffatrïoedd.

Mwrllwch yn ninas Beijing yn 2003.

Geirdarddiad golygu

Mae'r gair "mwrllwch" yn dyddio o 1703 ac ei ystyr draddodiadol yw niwl, tarth neu dawch.[1] Ceir hefyd y gair tebyg "morllwch" neu "morlwch" (o dua 1300) sy'n golygu distrych y don[2] (cymharwch â'r term llwch y môr). Defnyddiwyd y term Saesneg smog yn gyntaf gan H. A. Des Voeux ym 1905 i ddisgrifio'r atmosffer mewn nifer o drefi Prydain. Cyfuniad o'r geiriau Saesneg smoke (mwg) a fog (niwl) yw'r gair, a chafodd ei boblogeiddio mewn adroddiad Des Vouex i Gynhadledd Manceinion y Cynghrair er Atal Mwg ym Mhrydain Fawr ym 1911. Yn ôl yr adroddiad bu farw dros 1000 o bobl yn Glasgow a Chaeredin o ganlyniad i fwrllwch yn nhymor yr hydref 1909.[3] Bellach, defnyddir y gair "mwrllwch" yn y Gymraeg yn gyfystyr â'r gair Saesneg smog.[4][5][6]

Mwrllwch sylffyraidd golygu

Achosir mwrllwch sylffyraidd (neu "mwrllwch Llundain") gan grynodiad uchel o ocsidiau sylffwr yn yr awyr o ganlyniad i ddefnydd tanwyddau ffosil sy'n cynnwys sylffwr, yn enwedig glo. Gwaethyga'r fath hon o fwrllwch gan leithder a chrynodiad uchel o fater gronynnol mewn daliant yn yr aer.[3]

Mwrllwch ffotocemegol golygu

Ceir mwrllwch ffotocemegol (neu "mwrllwch Los Angeles") yn bennaf mewn ardaloedd trefol sydd â nifer fawr o geir. Achosir gan yr ocsidiau nitrogen a'r anwedd hydrocarbonau a ryddheir gan geir sydd yn adweithio'n ffotocemegol yn yr atmosffer is. Daw'r nwy gwenwynig osôn o'r adwaith rhwng ocsidiau nitrogen ac anwedd hydrocarbonau yng ngolau'r haul, a chynhyrchir rhywfaint o ddeuocsid nitrogen gan yr adwaith rhwng ocsid nitrogen a golau'r haul. Mae'r mwrllwch hwn yn rhoi lliw brown golau i'r atmosffer ac yn achosi niwed i blanhigion, cosi'r llygaid, ac anhawster anadlu.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, mwrllwch Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback..
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, morllwch[dolen marw].
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) smog (atmosphere). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  4. Geiriadur yr Academi, [smog].
  5.  Geiriadur Cymraeg-Saesneg. BBC. Adalwyd ar 24 Chwefror 2013.
  6.  Rhybudd ‘smog’ yn ystod y briodas frenhinol. Golwg360 (21 Ebrill 2011). Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: