Papur Bro ardal Dyffryn Conwy a'r Glannau, yn sir Conwy, ydy Y Pentan. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Tachwedd 1979.[1] Argraffir y papur yn Llanrwst.

Y Pentan
Enghraifft o'r canlynolpapur bro Edit this on Wikidata

Yn rhifyn Tachwedd 2019 dathlodd 'Y Pentan' wasanaeth ddi-dor i'r ardal dros ddeugain mlynedd.

Hanes Y Pentan golygu

Dechrau'r Daith golygu

 
Dalgylch gwreiddiol Y Pentan

Os edrychwch chwi ar y map fe welwch bod yna bapurau bro i’r de (Yr Odyn), dwyrain (Y Gadlas) a’r gorllewin (Llais Ogwan) o’r ardal ac ‘r oedd hynny’n dipyn o boendod! Merched y Wawr sy’n cael y clod am wthio’r cwch i’r dŵr a hynny drwy drefnu cyfarfod yn ystod Chwefror 1979. Fe’i cynhaliwyd  yng Nghanolfan Athrawon Conwy oedd yn rhan o Ysgol Cadnant yn y dref, ac sydd bellach wedi ei dymchwel. Penderfynwyd yn unfrydol i symud ymlaen i geisio sefydlu Papur Bro ar gyfer yr ardal o Lanrwst i Landudno ac o Abergwyngregyn  i Gyffordd Llandudno. Cynhaliwyd cyfarfod pellach yn Ysgol Talybont o dan gadeiryddiaeth y diweddar  R.E. Jones a phenderfynwyd mai enw’r papur fyddai ‘Y Pentan’.

Gwasg Gwynedd golygu

 
Hen Ysgol Nant Peris, cartref cyntaf Gwasg Gwynedd

Yn ystod y misoedd nesaf dewisiwyd Emyr Jones yn Olygydd (fe barhaodd yn y swydd am un mlynedd ar bymtheg) a Gareth Pritchard yn Is-Olygydd. Gwnaed trefniadau i Wasg Gwynedd oedd â’u swyddfa yn Nant Peris bryd hynny i argraffu’r papur ac mai rhifyn Tachwedd 1979 fyddai’r rhifyn cyntaf. Cofiwch nad oedd yna gyfrifiaduron gan y wasg yr adeg honno – teipiadur hefo peli oedd yn gwneud y gwaith!

 
Alwyn Elis yn brysur yn paratoi rhifyn o'r Pentan

Llwyddwyd i gael gohebwyr ar gyfer y rhan helaethaf o’r trefi a’r pentrefi a chael Bwrdd Busnes i ofalu am yr ochr ariannol a’r hysbysebion. Bore hanesyddol oedd y bore Sadwrn hwnnw pan gyfarfu nifer ohonom yn Ysgol Talybont, heb fawr o glem, i ‘osod’ y rhifyn cyntaf. Wrth lwc, daeth rhai o griw ‘Y Bedol’ (y papur bro, nid y dafarn, drws nesaf i'r ysgol!) i’n helpu.  Ysgol Talybont fu cartref  Y Pentan am y pum mlynedd cyntaf

 
Hunan bortread Nesta Hughes

R oedd y fformiwla o ddyddiad y rhifyn nesaf braidd yn gymhleth bryd hynny ac fe gafwyd gartwn gan Nesta Hughes, Gohebydd Penmaenmawr!

Y Rhifyn Cyntaf golygu

 
Dyma fo! Rhifyn cyntaf Y Pentan

Dyma fo! Y rhifyn cyntaf a welodd olau dydd ganol Hydref (er bod y teitl yn dweud yn wahanol) 16 tudalen a’r gost yn 15 ceiniog Y drefn bryd hynny oedd danfon y deunydd i Gaernarfon ar un penwythnos a’i adael yng nghartref Henry Lloyd Owen y naturiaethwr (tad Gerallt), yna rhywun yn nol y gwaith wedi ei deipio i Nant Peris, gosod y papur yn Nhalybont, ei ddychwelyd y penwythnos wedyn i Gaernarfon. Diwedd y daith oedd cario’r tudalennau oedd wedi eu hargraffu o Nant Peris i gael eu plygu yn Ardal y Pentan. Tipyn o dasg!

Lluniau'n Drafferthus golygu

Glan Llyn A

Glan Llyn B

Y CRIW CYNNAR!

 
Criw gosod cynnar-Rob Davies, Dafydd Alwyn Hughes, Gareth Pritchard, Peter Jones ac Emyr Jones

Rob (Golygydd Chwareon) Daydd Alwyn, Fi, Peter ac Emyr.

Robin dynnodd y llun – idiot proof!

Yr Ail Rifyn golygu

Helynt y Pafiliwn! Cyfraniad Robin

Newid Mawr golygu

 
Myrddin gyda'i beiriant rotoprint gwreiddiol

Roedd gŵr ifanc o Lanrwst wedi dechrau busnes argraffu – Gwasg Carreg Gwalch ac roedd teimlas cryf y dylig ei gefnogi. Rhaid cyfaddef bod rhai yn bryderus gan mai hen beiriannau a daflwyd o’r neilltu gan y gweisg eraill oedd ganddo. Beth bynnag, fe wnaethpwyd y newid ym Medi, 1981, trefniant sydd wedi parhau hefo nhw ers hynny! Dyma fo Myrddin wrth ei beiriant rotoprint cyntaf.

Adeilad Cyntaf y Wasg golygu

 
Adeilad gwreiddiol Carreg Gwalch

Yn weddol fuan fe brynodd Myrddin  dy teras yn Stryd Watling ac fe ddaeth Gwawr, ei chwaer ato a dechrau busnes ‘Bys a Bawd’. Erbyn Mawrth 1983   symudwyd y wasg i hen ficerdy Capel Garmon oedd wedi cael ei addasu ar gyfer y gwaith. Yn Ionawr 1994 symudodd y wasg yn ôl i Lanrwst – i 12 Iard yr Orsaf

Swyddfa'r Toriaid golygu

 
Disgrifiad o Swyddfa'r Toriaid

Wir Yr! Dros y blynyddoedd bu'r Pentan yn ceisio cefnogi ymgyrchoedd. Un o'r rhain, yn ystod yr wythdegau, oedd protest yn erbyn prisiau uchel am ddŵr. Trefnwyd protest un bore Sadwrn tu allan i Swyddfa'r aelod seneddol, Wyn Roberts, yn ystod y cyfnod pan oedd Elwyn Jones yn asiant y Toriaid. Cytunodd yr aelod seneddol i weld dirprwyaeth ac yma mae disgrifiad o swyddfa'r Toriaid ar y pryd.

Yr Ŵyl Ddrama golygu

Dechreuwyd cynnal Gŵyl Ddrama yn fuan iawn – yn Neuadd y Dref Conwy. Gwahodd cwmniau oedd ar y cychwyn ond yna trefnwyd cystadleuaeth perfformio drama fer. Bu’r Wyl yn llwyddiant ysgubol am flynyddoedd gyda’r tocynnau wedi eu gwerthu i gyd a llawer o hwyl a chymdeithasu. Rhaid cydnabod hefyd bod yr Wyl wedi ein helpu yn ariannol dros y blynyddoedd. Siwr o fod mai Cwmni Glan Conwy fu un o’r cwmniau mwyaf llwyddannus. Rhaid hefyd cydnabod cyfraniad amrhisiadwy Robin Jones i lwyddiant pob Gwyl.

Symud i Ysgol Dyffryn Conwy i wneud y gosod golygu

Coffau'r Parchedig Lewis Valentine golygu

Baner  Y Tabernacl – Glenys Williams

Y Bwa golygu

Eisteddfod Genedlaethol 1989 – cyhoeddi dau rifyn o bapur bro ‘Y Bwa’ yn ystod wythnos yr eisteddfod ar y cyd gyda chriw Yr Odyn. Tipyn o fenter, ond un a fu’n llwyddiannus iawn – yn enwedig i helpu’r coffrau.

1996  - Emyr Jones yn ymddeol golygu

Croesawu Mochdre  ym Medi– yn dilyn newidiadau Merched y Wawr

PWYLLGOR UNO 2001

NEWID Y DALGYLCH- MAP golygu

Newid Ffiniau golygu

Yn 1996 ymunodd Mochdre â’r Pentan yn dilyn newidiadau yn nrhefniant Merched y Wawr. Braf, wedyn, fu cael croesawu Bae Colwyn, Hen Golwyn a Llandrillo yn rhos yn 2001.

CROESAWU ARDAL BAE COLWYN

 
Ionawr 2001, croesaw Ardla Bae Colwyn

HELYNT!

Rhifyn Mawrth 2001

Sylw i broblemau tai

YMGYRCH ARWYDDION CYMRAEG GWALLUS Mae'r Pentan, dros y blynyddoedd, wedi rhoi sylw i arwyddion Cymraeg gwallus, yn enwedig rhai cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n parhau'n bechaduriaid

CYFRANIAD ISLWYN WILLIAMS

Ddoe a Heddiw – ei gasgliad anhygoel o gardiau post

MELLTITH Y MELINAU GWYNT!

 
Sylwer bod Melinau Gwynt y Môr yn uwch na'r Gogarth Fach

Bu cryn ddadlau o blaid ac yn erbyn datblygu rhyw 160o felinau gwynt oddi ar arfordir Gogledd Cymru gyda phob math o ddadlau o blaid ac yn erbyn y prosiect am gyfnod maith. Rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r mater yn 'Y Pentan' ar y pryd. CYMDEITHASU – Gwilym a’r treiffl

BLAENORIAID 2009

Gweld y Diafol

Ebrill 2007 – newid  - Lowri Williams o Eglwysbach yn gwneud y rhan helaethaf o’r gwaith gosod,  ond roeddem yn parhau i gyfarfod bob mis i gludo tudalennau a gosod papur du yn lle’r lluniau

DIWEDD TORRI A GLUDO (Festri Capel Carmel Conwy
Buom yn ffodus o gael defnyddio Ysgoldy Capel Carmel, Conwy, am flynyddoedd a chael croeso mawr drwy gysylltiadau Robin a phaned a theisen gan Victor Wlliams. Daeth hyn I ben yn 2006. Yna, bu newid arall gyda Lowri Williams o Eglwysbach yn gwneud llawer o’r gwaith teipio a gosod.

Cymdeithas PAWB  - Gwledda!

Medi 2009 – y newid mawr!

 
Lynwen a Mererid wrth eu gwaith
 
Geraint, Phil a Robin o'r Adran Argraffu

Bu newid mawr yn y trefniadau yn 2009 pan benderfynwyd cael Gwasg Carreg Gwalch i wneud y gwaith cysodi i gyd, ac mae Lynwen (a welir ar y peiriant Apple Mac)wedi gwneud y gwaith yn ardderchog dros y deng mlynedd. Hefyd, rhaid canmol Mererid fel yr un fu’n derbyn y cynnyrch i’r wasg, a pheidiwn ag anghofio cyfraniad yr adran argraffu! Geraint yn gyfrifol am y papur, Phil am y 'platiau' a Robin am yr argraffu.Golygydd y mis yn cadw golwg a threfnu’r dudalen flaen.

CAU BETHANIA Rhagfyr 2009

DVD

 
Dechrau ar y gwaith o sganio pob copi

Rhaid fu symud gyda’r oes a chafwyd cymorth gan griw ‘Eco’r Wyddfa’ yn 2013 i sganio pob tudalen o bob copi o’r Pentan ers y cychwyn cyntaf a’u gosod ar ddwy ddisg DVD. Tasg anferthol! Buom yn ddigon ffodus na chostiodd y prosiect yr un geiniog a gwnaethom elw o £300. Ers 2013 mae'n bosib' derbyn copi digidol o bob rhifyn (ffeil pdf) drwy e-bost yn fisol. Mae hyn, wrth gwrs yn llawer rhatach na chopi drwy'r post ac yn cyrraedd yn llawer cynt. Seville yn Sbaen yw'r lle pellaf ar hyn o bryd.

Ieir Russell

Ymgyrch y Tedis golygu

Bu disgyblion yr Ysgol Sul Unedig yn Llandudno, eu teuluoedd a'u cyfeillion, yn brysur iawn yn ystod 2018 yn casglu tedis ar gyfer plant yn Syria a bu'r Pentan yn ceisio cefnogi'r prosiect dyngarol hwn drwy roi cyhoeddusrwydd ac anogaeth.

Hwyl a Throeon Trwstan golygu

Dros y blynyddoedd bu tpyn o godi hwyl a thynnu coes yn y papor. Dyma rhai enghreifftiau.

GLODDESTA DOLIG

PLYGU CAPEL Y RHOS

BWNDELU

Dathlu Penblwydd Y Pentan yn 30   Tachwedd 2009

RHIFYN 400

Dylan a Nerys

Cofio Dafydd

 
Cofio cymwynaswr, Dafydd Thomas
 
Enghraifft o Dudalen y Plant

Dyfodol mewn peryg- Ebrill

PLYGU OLAF – LLANDUDNO MAI

 
Y plygu olaf yn Llandudno, Mai 2019

MYRDDIN

 
Myrddin a'i beiriant lliw newydd

PENTAN MEWN LLIW-CHWYLDRO YM MIS MEHEFIN 2019! Cafwyd tipyn o sioc pan gyhoeddodd Myrddin ap Dafydd yn gynharach yn y flyddyn y byddai’r Pentan mewn lliw o rifyn Mehefin ymlaen. Mae hyn wedi gwella diwyg y papur yn aruthrol, ond mae wedi golygu costau ychwanegol. Er mwyn parhau i gyhoeddi’r Pentan bydd yn rhaid codi arian a chwtogi’r nifer o dudalennau.

Y BWA

Y DYFODOL

Beth am y dyfodol?

Pobl Y Pentan

Trysorydd – Iorwerth

Cost  y papur YN WEDDOL DDIWEDDAR   28 tudalen - £1162 + lluniau

COST PAPUR 28 TUDALEN HEDDIW £1680

Trefnydd Hysbysebion – Gwilym –

Clwb Cant – Myra ac Elfyn

RHAGFLAS O RIFYN TACHWEDD Tudalen Llandudno

Cyfeiriadau golygu

  1. "Casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol:Papurau Bro". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-23. Cyrchwyd 2007-11-01.