Y Stafell Ddirgel
Nofel hanesyddol gan Marion Eames yw Y Stafell Ddirgel. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal Dolgellau yn yr 17g. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1969.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Marion Eames |
Iaith | Saesneg, Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1969 |
Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y Crynwyr yn dilyn dyfodiad Siarl II ar orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym 1672, deuddeng mlynedd wedi'r Adferiad. Dilyniant i'r Y Stafell Ddirgel yw Y Rhandir Mwyn. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i Pennsylvania yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru.
Daw Rowland Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond nid yw ei wraig o'r un farn ag ef. Yn dilyn ei marwolaeth hi, mae'n ailbriodi ei gyfnither, sy'n cydymdeimlo ag achos y Crynwyr. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o gyn-weision ei fferm a theflir Ellis a'i gyd-grynwyr i'r carchar a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.
Prif Gymeriadau
golygu- Rowland Ellis
- Roedd Rowland Ellis yn gymeriad hanesyddol o Fryn Mawr, Dolgellau a oedd wedi cael addysg dda ac a ddaeth yn un o arweinwyr y Crynwyr
- Hywel Vaughan
- Marged Owen
- Ellis Puw
- Meg Ellis
- Huw Morris
- Malan
- Lisa
- Sinai Roberts
- Dorcas
- Jane Owen
- Hywel Vaughan
- Jeremy Mellor
- Gwallter