Washington, D.C.

prifddinas Unol Daleithiau America
(Ailgyfeiriad oddi wrth Washington, DC)

Prifddinas Unol Daleithiau America yw Washington, D.C. (District of Columbia: Ardal Columbia)[1]. Fe'i henwir ar ôl George Washington, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch Columbia lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 705,749 (1 Gorffennaf 2019)[2] - llai na dwywaith maint Caerdydd. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i Maryland, Virginia, a Gorllewin Virginia, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000.

Washington
Aerial of the U.S. Capitol under restoration 04879v.jpg
Seal of the District of Columbia.svg
ArwyddairJustitia Omnibus Edit this on Wikidata
Mathprifddinas, dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, ardal ffederal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGeorge Washington, Christopher Columbus Edit this on Wikidata
Poblogaeth705,749 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Gorffennaf 1790 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMuriel Bowser Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoltaleithiau cyfagos UDA, Canolbarth yr Iwerydd, rhaniad ddinesig Washington–Arlington–Alexandria Edit this on Wikidata
SirDistrict of Columbia Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd177 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Potomac, Afon Anacostia, Rock Creek Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArlington County, Alexandria, Prince George's County, Montgomery County, Fairfax County, Bethesda, Maryland, Silver Spring Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.895°N 77.0367°W Edit this on Wikidata
Cod post20001–20098, 20201–20599 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Dosbarth Columbia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMuriel Bowser Edit this on Wikidata

Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio â Maryland a Virginia, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym 1800. Enwyd y ddinas ar ol George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef sefydlwyr yr Unol Daleithiau.[3] Enwir yr ardal ffederal ar ôl Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.[4] Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.[5][6]

Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint â 131 o gymdogaethau (neighborhoods). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i Dŷ'r Cynrychiolwyr, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y Senedd. Mae pleidleiswyr y dosbarth (district) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol â'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961.

Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal â phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobïo, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys Grŵp Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a Chroes Goch America.

HanesGolygu

Roedd amryw o lwythau o'r brodorion Piscataway, sy'n siarad Algonquian, (a elwir hefyd yn Conoy) yn byw yn y tiroedd o amgylch Afon Potomac pan ymwelodd Ewropeaid â'r ardal am y tro cyntaf, ar ddechrau'r 17g. Roedd un grŵp o'r enw Nacotchtank (a elwir hefyd yn Nacostines gan genhadon Catholig) yn preswylio o amgylch Afon Anacostia yn Ardal Columbia heddiw. Oherwydd goresgyniad treisiol y gwladychwyr Ewropeaidd ffpd y brodorion Piscataway, a sefydlodd rhai ohonynt anheddiad newydd ym 1699 ger y fan a elwir heddiw yn Point of Rocks, Maryland.[7]

Pwysleisiodd Gwrthryfel Pennsylvania yn 1783 yr angen i'r llywodraeth genedlaethol beidio â dibynnu ar unrhyw wladwriaeth er ei diogelwch ei hun.[8] Mae Erthygl Un, Adran Wyth, o'r Cyfansoddiad yn caniatáu sefydlu "Dosbarth (heb fod yn fwy na deng milltir sgwâr) a all ddod yn sedd llywodraeth yr Unol Daleithiau".[9]

SefydluGolygu

Ar 9 Gorffennaf 1790, pasiodd y Gyngres y Ddeddf Breswylio, a gymeradwyodd greu prifddinas genedlaethol ar Afon Potomac. Roedd yr union leoliad i'w ddewis gan yr Arlywydd George Washington, a lofnododd y bil yn gyfraith ar 16 Orffennaf. Wedi'i ffurfio o dir a roddwyd gan daleithiau Maryland a Virginia, roedd siâp cychwynnol yr ardal ffederal yn sgwâr a oedd yn mesur 10 milltir (16 km ) ar bob ochr, cyfanswm o 100 milltir sgwâr (259 km2).[10]

Yn ystod 1791–92, bu tîm o dan Andrew Ellicott, gan gynnwys y brodyr Ellicott Joseph a Benjamin a’r seryddwr Affricanaidd-Americanaidd Benjamin Banneker, yn arolygu ffiniau’r ardal ffederal a gosodwyd cerrig terfyn ar bob pwynt milltir. Yn 2021, roedd llawer o'r cerrig yn dal i sefyll.[11][12]

 
Ar 24-5 Awst 1814, ymosododd byddin Lloegr ar y ddinas gan ei llosgi'n ulw.

Adeiladwyd dinas ffederal newydd ar lan ogleddol y Potomac, i'r dwyrain o Georgetown. Ar 9 Medi 1791, enwodd y tri chomisiynydd a oedd yn goruchwylio adeiladu'r brifddinas y ddinas er anrhydedd i'r Arlywydd Washington. Yr un diwrnod, enwyd yr ardal ffederal yn Columbia (ffurf fenywaidd o "Columbus"), a oedd yn enw barddonol ar gyfer yr Unol Daleithiau ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin bryd hynny.[13][14] Cynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ar 17 Tachwedd 1800.[15][16]

AtyniadauGolygu

 
Baner Washington, D.C.
  1. "Introduction: Where Oh Where Should the Capital Be?". WHHA (yn Saesneg).
  2. https://dc.gov/release/new-population-new-year-new-housing.
  3. "Washington, D.C. History F.A.Q." The Historical Society of Washington, D.C. (yn Saesneg). May 27, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2017. Cyrchwyd 7 Mawrth 2018.
  4. Broder, David S. (18 Chwefror 1990). "Nation's Capital in Eclipse as Pride and Power Slip Away". The Washington Post. Cyrchwyd 18 Hydref 2010. In the days of the Truman Doctrine, the Marshall Plan and the creation of NATO, [Clark Clifford] said, we saved the world, and Washington became the capital of the world.
  5. "The 10 most-visited cities in the US this year". Insider. Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
  6. Cooper, Rebecca (9 Mai 2017). "D.C. breaks another domestic tourism record". www.bizjournals.com. Washington Business Journal.
  7. Humphrey, Robert Lee; Chambers, Mary Elizabeth (1977). Ancient Washington: American Indian Cultures of the Potomac Valley. George Washington University. ISBN 9781888028041. Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
  8. Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). "IV. Washington Becomes The Capital". Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 66.
  9. "Constitution of the United States". National Archives and Records Administration. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
  10. Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. tt. 89–92.
  11. Bordewich, Fergus M. (2008). Washington: the making of the American capital. HarperCollins. tt. 76–80. ISBN 978-0-06-084238-3.
  12. "Boundary Stones of the District of Columbia". BoundaryStones.org. Cyrchwyd 27 Mai 2008.
  13. Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 101. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  14. "Get to Know D.C." Historical Society of Washington, D.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2010. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2011.
  15. "The Senate Moves to Washington". United States Senate. 14 Chwefror 2006. Cyrchwyd July 11, 2008.
  16. Tom (24 Gorffennaf 2013). "Why Is Washington, D.C. Called the District of Columbia?". Ghosts of DC (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.