Y Teigr a Ddaeth i De

Stori ddwyieithog â darluniau i blant oed cynradd gan Judith Kerr (teitl gwreiddiol Saesneg: The Tiger Who Came to Tea) wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Roger Boore yw Y Teigr a Ddaeth i De / The Tiger Who Came to Tea. Dref Wen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2017. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Y Teigr a Ddaeth i De
AwdurJudith Kerr
CyhoeddwrDref Wen
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
PwncLlenyddiaeth plant Gymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781855968998
DarlunyddJudith Kerr

Cyhoeddwyd y fersion Saesneg gwreiddiol ym 1968. Mae cyfrol hon yn ailddefnyddio cyfieithiad Cymraeg y testun a gyhoeddwyd gyntaf gan Gwasg y Dref Wen ym 1998, ond ar bob tudalen ceir y testun Saesneg mewn print llai o dan y testun Cymraeg.

Disgrifiad byr golygu

Wrth i Catrin a Mam gael te mae cloch y drws yn canu. Pwy all fod yno, tybed? Pwy ond anferth o deigr streipiog sy eisiau cael te gyda nhw!


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 26 Mai 2019